Our Future

MEITHRIN CYMUNEDAU GWYDN AR DRAWS PRYDAIN 

Mae pobl ledled y wlad o’r farn nad yw pethau’n gallu parhau fel y maent ar hyn o bryd.

Mae’r argyfwng yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb, rhaniadau a gwahaniaethu ar lefel eang yn dangos nad yw ein systemau gwleidyddol ac economaidd yn gwasanaethu llesiant pobl na’r blaned. Ond mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn dod at ei gilydd i newid hyn er mwyn adeiladu dyfodol gwell. Mae cymunedau’n barod i ymdrin â’r heriau mawr sy’n eu hwynebu, drwy ddechrau ar lefel leol.

Os byddwn yn aros am y llywodraeth, bydd yn rhy hwyr.  Os byddwn yn gweithredu fel unigolion, ni fydd yn ddigon. Ond trwy weithredu fel cymunedau, hwyrach y bydd yn ddigon ac mewn pryd. Mae ‘Transition Together’ yn cefnogi pobl i gysylltu ar lefel leol er mwyn meithrin cymunedau mwy cynaliadwy a chydradd lle mae gennym reolaeth dros ein bywydau dyddiol.

Beth yw’r Mudiad Trawsnewid?

Mae Trawsnewid yn fudiad rhyngwladol o gymunedau sy’n dod at ei gilydd er mwyn ail-ddychmygu ac ail-adeiladu ein byd. Ers 2005, mae miloedd o grwpiau wedi datblygu mewn pentrefi, dinasoedd, prifysgolion ac ysgolion mewn dros 50 o wledydd.

Diben Trawsnewid yw pobl sy’n gweithredu ar lefel ymarferol yn yr ardal leol i ymdrin â’r heriau mawr sy’n eu hwynebu.  Rhyngom, rydym yn adeiladu dyfodol mwy cydradd, cynaliadwy a democrataidd.

Ymuno â grŵp lleol

Mae gan bobl ym mhob cymuned y grym i wneud eu cymuned leol yn fwy cynaliadwy a chyfiawn ar lefel gymdeithasol.  Y cam cyntaf yw dod ynghyd.

Y grwpiau trawsnewid a’r trefnyddion lleol yw calon ein mudiad.  Mae dros 300 o grwpiau Trawsnewid yn bodoli ar draws Prydain ac yn gweithredu eisoes i greu dyfodol gwahanol.

Beth am gysylltu â’ch grŵp lleol, neu gychwyn grŵp eich hunan os nad oes grŵp yn eich ardal chi.

Stories

Recent Stories

Sero –Canolfan Amgylcheddol Cymunedol newydd Caerfyrddin

Yn dilyn misoedd lawer o gynllunio a thrafodaethau, agorwyd drysau Canolfan Amgylcheddol Cymunedol newydd Caerfyrddin Gyda’n Gilydd o’r diwedd, yng nghanol tref Caerfyrddin. Nod y canolfan yw dod â chysyniadau gwydnwch, adfywio, economi cylchol ac adeiladu cymunedol yn fyw, a helpu pobl ledled yr ardal i ddod at ei gilydd, dysgu sgiliau newydd a chefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod heriol sydd ohoni. Ymhlith y prosiectau sy’n digwydd eisoes mae: Caffi Atgyweirio rheolaidd, Llyfrgell Pethau, a New2U, cynllun cyfnewid teganau a […]
Chris McCartney
14 Chwefror 2024
3 minute read

Sut y gall cyllid sbarduno feithrin gweithredu gan gymuned

Wrth inni gyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o gyllid sbarduno, gallwch weld sut mae’r grantiau bach yn ysgogi newid mawr mewn cymunedau, ac yn dangos sut y mae dyfodol tecach, mwy gwydn nid yn unig bosibl, ond yn digwydd eisoes.
Chris McCartney
8 Tachwedd 2023
9 minute read

Prif gwestiynau’r dyfodol sydd angen eich atebion chi

Beth sydd ei angen arnoch gan y mudiad Trawsnewid i’ch helpu teimlo eich bod yn perthyn?  Sut gall Hyb helpu eich grŵp i ffynnu?  Beth fyddai’n ei wneud yn hygyrch ichi? Mae Amy Sciafe yn rhannu darganfyddiadau’r grŵp Gofalwyr, sy’n helpu datblygu strwythur mwy cynrychioladol er mwyn cefnogi’r mudiad Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n estyn gwahoddiad ichi gyfrannu at y broses. Rydym bellach ychydig dros hanner ffordd trwy ein proses fel pump ‘gofalwr’, yn ceisio llunio siâp yr hyb […]
Chris McCartney
27 Chwefror 2023
5 minute read

Gofalu am sgwrs hollbwysig

Ym mis Gorffennaf 2022, daeth grŵp o bump ‘Gofalwr’ at ei gilydd i ystyried fframwaith ar gyfer dyfodol y mudiad Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr. Ers hynny, mae Phil, Monica, Kate, Declan ac Amy wedi cwrdd ar-lein bob mis, ac wedi cynnal sgyrsiau dwfn, cyfoethog a heriol, er mwyn ystyried sut y caiff Trawsnewid ei drefnu mewn gwledydd eraill y byd, ac i ddylunio proses er mwyn cynnwys y mudiad ehangach yng Ngwanwyn 2023 wrth greu strwythur ar gyfer Cymru a […]
Chris McCartney
23 Chwefror 2023
7 minute read

Blwyddyn o Drawsnewid gyda’n Gilydd

Lansiwyd Trawsnewid gyda’n Gilydd ychydig dros flwyddyn yn ôl, ac mae’n amser da i fyfyrio ar ein rôl, yr hyn a wnaethpwyd, yr hyn a ddysgwyd, ac ar beth y byddwn yn canolbwyntio yn ystod 2023.
Chris McCartney
14 Chwefror 2023
10 minute read

Cyllid Sbarduno’n fyw: O hadau mân, mae grwpiau Trawsnewid yn creu cynhaeaf toreithiog

Roedd pawb yn ymwybodol o hyn eisoes. Gall hadau bach arwain at gnydau niferus, amrywiol a thoreithiog yn nwylo’r gymuned Trawsnewid! Mae mwy na 80 o grwpiau wedi dangos hyn trwy ffrwyth eu llafur a rhaglen cyllid sbarduno’r llynedd trwy ‘Transition: Bounce Forward’. Erbyn hyn, diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn lansio rownd newydd o gyllid sydd ar gael i grwpiau, ac rydym yn llawn cyffro wrth ddisgwyl clywed am eich cynlluniau. Pobl sy’n rhan o’u […]
Chris McCartney
28 Gorffennaf 2022
9 minute read

I ddarllen mwy o straeon, cliciwch yma.

Tanysgrifio i dderbyn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr misol i gadw mewn cysylltiad a chael y newyddion diweddaraf.

Ymunwch â ni ar Gyfryngau Cymdeithaso

Skip to content