Y rheswm mae grym cymunedol yn allweddol i feithrin dyfodol gwell

Y rheswm mae grym cymunedol yn allweddol i feithrin dyfodol gwell
Rhiannon
15 Tachwedd 2021
5 minute read

Heddiw, mae’n bleser gennym lansio ‘Trawsnewid Ynghyd’, prosiect newydd gyda’r nod o helpu adeiladu cymunedau wedi’u grymuso, mwy gwydn a chynaliadwy ar draws Prydain, o’r gwaelod i fyny.

Wrth i bethau setlo ar ôl COP26, ni fu angen mor frys ac angenrheidiol ar gyfer newid. Cawn ein hysbrydoli gan actifyddion ledled y mudiad hinsawdd sydd wedi sefyll eu tir dros drawsnewid cyfiawn a chynhwysol. O’r bobl ifanc fu’n ymgyrchu ar y strydoedd a thrwy gyfryngau cymdeithasol, i Gynulliad COP26 oedd wedi denu pobl o bedwar ban byd, i’r syniadau radical ar gyfer newid a lleisiau ymylol sy’n gwrthod cael eu hanwybyddu.

Nid yw’r pythefnos aeth heibio wedi ein gwneud yn fwy optimistaidd neu’n fwy pesimistaidd, ond yn fwy penderfynol. Mwy penderfynol i ddychwelyd i’n cymunedau lleol a dechrau magu grym, cryfder a chapasiti i newid ein dyfodol. I fagu trefi, dinasoedd a gwledydd mwy cydradd a chynaliadwy yn unol â dyheadau ein calonnau. Yn ôl Ben Brangwyn un o gyd-sylfaenwyr y mudiad Trawsnewid:

“Os byddwn yn aros am lywodraethau, bydd yn rhy hwyr. Trwy weithredu fel unigolion, ni fydd yn ddigon. Ond trwy weithredu fel cymunedau, hwyrach y bydd yn ddigon, a hwyrach na fydd yn rhy hwyr.” 

Trwy ddod at ein gilydd, gallwn sicrhau’r effaith fwyaf. Trwy geisio gweithredu wrth ein hunain, gall yr heriau sy’n ein hwynebu ymddangos yn llethol, ond trwy uno rydym yn dechrau sylweddoli’r grym a’r potensial sydd gennym. Dangosodd y ffordd y daeth pobl at ei gilydd i ymateb mewn cymunedau a strydoedd ledled y wlad yn ystod y pandemig budd cydweithio ar adeg argyfwng ac y gallwn lwyddo i feithrin cymuned a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Dyma’r agwedd y mae angen inni ei arfer mewn perthynas â’r argyfwng yn yr hinsawdd. Er mwyn goresgyn polareiddio a rhaniadau, a chydnabod yr anghenion cyffredin a dynoliaeth trwy adeiladu pontydd a rhwydweithiau a chefnogaeth o fewn ein cymunedau lleol sy’n ein galluogi i gymryd camau trawsnewidiol.

Mae Trawsnewid Ynghyd yn bodoli i feithrin y gwaith yma. Eisoes mae 300 o Grwpiau Trawsnewid ledled y wlad sy’n cael effaith ac yn dod â phobl ynghyd i gymryd camau positif ar newid yn yr hinsawdd. Rydym yn awyddus i gefnogi’r grwpiau hyn i ehangu, dyfnhau ac ymestyn eu heffaith er mwyn herio anghyfiawnder systemig a thalu mwy o sylw at bwy sydd a phwy sydd ddim yn cael eu cynnwys yn ein rhwydwaith newid.

Ac rydym yn awyddus i groesawu a chefnogi pobl a chymunedau newydd ar draws i wlad i weithredu er mwyn brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd ar lefel leol. Felly os ydych yn teimlo’n ddigalon yn sgil trafodaethau COP26  ac yn awyddus i gymryd camau positif i adeiladu gwell dyfodol, dyma’r amser i gyfrannu.

Rydym am eich helpu i wireddu’ch breuddwyd, ail-ddychmygu gwell dyfodol, ac wedyn gwneud i hyn ddigwydd ar lefel ymarferol.  Hwyrach y bydd yn golygu sefydlu prosiectau ynni adnewyddadwy, adleoli systemau bwyd, sbarduno entrepreneuriaeth, ail-wylltio dinasoedd, creu mannau cymunedol,  gweithio gyda’r cyngor lleol ar yr argyfwng hinsawdd neu bontio rhaniadau o fewn eich cymuned.

Mae ‘Trawsnewid Ynghyd’ yn dilyn prosiect ‘Transition Bounce Forward’ a gynhaliwyd rhwng Medi 2020 – Mawrth 2021 ac a oedd yn cefnogi grwpiau Trawsnewid ar draws Prydain i symud ymlaen yn sgil Covid-19 yn hytrach nag yn ôl at yr un hen broblemau. Dosbarthwyd cyllid cychwynnol i sbarduno mentrau cymunedol newydd, daethpwyd â grwpiau at ei gilydd i ddysgu a threfnwyd cynhadledd ‘What Next Summit’ i ystyried y cwestiynau mawr ac i ysbrydoli syniadau ac atebion newydd.  Mae holl gyflwyniadau ‘What Next Summit’ ar gael yma

Diolch i gyllid hael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Tyfu Syniadau Gwych bydd ‘Trawsnewid Ynghyd‘  yn cefnogi’r mudiad Trawsnewid ar draws Prydain i dyfu a datblygu dros y 10 mlynedd nesaf, gan arwain at newid systemig, mwy hirdymor.  

Byddwn yn helpu grwpiau i gysylltu â’i gilydd a dysgu gan ei gilydd, gan amlygu straeon llawn ysbrydoliaeth, dosbarthu grantiau cyllid cychwynnol a thrwy redeg gweithdai a digwyddiadau. Hefyd byddwn yn cefnogi cychwyn Hybiau sy’n gallu cydlynu’r mudiad Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr.  Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid Scottish Communities Climate Action Network sy’n gyfrifol am gysylltu a chefnogi’r mudiad Trawsnewid yn yr Alban.

Ond nid ffocws mewnol yn unig sydd gennym; gwelwn ein hunain fel rhan o ecosystem ehangach dros newid a byddwn hefyd yn datblygu cysylltiadau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol ymhlith grwpiau trawsnewid a sefydliadau eraill ledled y wlad sy’n gweithio i feithrin gwydnwch, grym a chapasiti cymunedau lleol.

Rydym eisoes yn rhan o  CTRLShift Coalition; ei ddiben yw creu mannau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol lle gall sefydliadau sy’n magu dewisiadau amgen ymarferol a radical ar lawr gwlad gydweithio, rhwydweithio a meithrin partneriaethau gyda’i gilydd.

Mae angen profiad y mudiad Trawsnewid o greu newid, dan arweiniad cymunedau, mwy nag erioed nawr, er mwyn rhoi lle i bobl sy’n teimlo’n ddigalon magu nerth newydd ac ymgysylltu, ac i ddangos y ffordd i unigolion sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau.  Byddai’n braf cael eich cwmni ar y daith newydd gyffrous hon gyda’n gilydd, tuag at well dyfodol.

Os hoffech dderbyn ein cylchlythyr, gallwch gofrestru yma; mae’n cynnwys newyddion a datblygiadau am ein prosiect, neu gallwch chwilio am eich grŵp lleol os hoffech gyfrannu.

Skip to content