Beth yw’r Cynulliad Trawsnewid – a sut i fod yn rhan ohono

Beth yw’r Cynulliad Trawsnewid – a sut i fod yn rhan ohono
Chris McCartney
1 Hydref 2024
6 minute read

Mae’d debyg y bydd y Cynulliad Trawsnewid yn drobwynt yn hanes ein Mudiad. Dros ddau ddiwrnod, gyda’n gilydd yn myfyrio ar ein sefyllfa bresennol, pwy ydym ni, a’r rol yr hoffem ei chwarae wrth lunio dyfodol mwy cyfiawn a chynaliadwy.

Pam nawr Um ddiweddar buom yn myfyrio ynghylch pam mae hyn yn adeg more bwysig i gymunedau ddod ynghyd ac arwain newid, ac inni ddefnyddio’r profiad gorau a’r holl qybodaeth sydd gennym er budd y mudiad Trawsnewid.

Ar ôl y cyfoeth o gyllid cyfredol sydd ar gael i gefnogi grwpiau Trawsnewid yn y DU – cyllid yr ydym yn gwybod y bydd yn dod i ben yn fuan – mae’n bryd inni asesu a chynllunio ar gyfer y tymhorau o’n blaenau. Yn debyg i weld dail yn disgyn yn yr Hydref, pan fydd gweithgarwch yn arafu, mae’n rhoi cyfle inni ystyried yr hyn sy’n weddill, beth sy’n tyfu’n dda, beth sy’n gaeafgysgu, pa hadau sy’n disgwyl eu deffro? A dros y misoedd cyn y Cynulliad, byddwn yn treulio’r gaeaf yn myfyrio gyda’n gilydd er mwyn ystyried sut y byddwn yn paratoi’r tir ar gyfer gwanwyn y dyfodol. Beth all deillio o dymor newydd a chyffrous o ffynnu a haelioni? 

Mae’n bryd i Drawsnewidwyr ddod ynghyd i lunio a pherchnogi gweledigaeth ar gyfer ein dyfodol, ac mae’r Cynulliad yn rhan o broses ehangach o ddeialog o fewn ein Mudiad fydd yn caniatáu inni ystyried hynny. Mae’r Plethwyr Rhwydwaith wedi bod yn estyn allan i bob grŵp ledled y wlad, er mwyn deall yn well eich anghenion a’ch heriau unigol, sut rydych chi’n ystyried eich hunan yn rhan o fudiad ehangach. Bydd hyn yn ymestyn wrth i sgyrsiau a chynulliadau lleol a rhanbarthol ddigwydd dros y misoedd nesaf. Hefyd byddant yn cynnal tair sgwrs genedlaethol ar-lein er mwyn ystyried beth yn union y gall strwythur  mudiad, cynulliad a rhwydwaith fod go iawn ar gyfer Trawsnewid nawr.

O’r ddeialog hon, byddwn yn hwyluso gofod er mwyn i gynigion ar gyfer y dyfodol ddatblygu. Y Cynulliad fyddai’r uchafbwynt, lle caiff y cynigion hyn eu trafod, a phennir y ffordd ymlaen i’r dyfodol. 

Beth fydd yn digwydd yno?

Digwyddiad dros benwythnos cyfan fydd hwn.

Nos Wener: Cyrraedd a glanio

Ymunwch â ni i fwyta, ymgysylltu a pharatoi ar gyfer y penwythnos yng nghwmni ein gilydd.

Dydd Sadwrn: Presenoldeb a Myfyrio

Byddwn yn canolbwyntio ar fod yn bresennol, ar ymgysylltu â’n gilydd a mapio tirwedd Trawsnewid, er mwyn gweld amrywiaeth a chyfoeth ein gwaith ar y cyd. Byddwn yn ystyried yr heriau sy’n ein hwynebu, a’r cyfleoedd i dyfu, gan glywed safbwyntiau sefydliadau cysylltiedig a myfyrio ar ein lle yn y mudiad ehangach. Daw’r diwrnod i ben gydag ymateb ar y cyd i’r cwestiwn “Beth yw Trawsnewid?” yn ein barn ni heddiw.

Dydd Sul: Gweledigaeth a Chamau Gweithredu

Gyda’n gilydd byddwn yn camu ymlaen i’r cyfnod nesaf, gan gydgynhyrchu gweledigaeth ar gyfer dyfodol Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr. Byddwn yn ymchwilio i arweinyddiaeth greadigol, adeiladu rhwydweithiau a llywodraethiant — gan weithio tuag at ganlyniadau ymarferol ac ymrwymiadau amlwg ar gyfer dyfodol ffynniannus. Dyma ein cyfle i ofyn: Beth nesaf? Pa rôl gallwn ni ei chwarae?

Tu hwnt i’r Cynulliad

Sylweddolwn pa mor bwysig fydd datblygu egni, gweledigaeth, penderfyniadau a’r cynlluniau a wneir yn ystod y Cynulliad. Yn y lle cyntaf, gall ein tîm Plethwyr Rhwydwaith a’r tîm Trawsnewid gyda’n Gilydd fod yn gyfrifol am drefnu trafodaethau a chamau gweithredu olynol, ac i gefnogi cyfranogwyr y Cynulliad a’r Mudiad ehangach i wireddu canlyniadau’r Cynulliad. 

Ar gyfer pwy mae hyn? 

Bydd y Cynulliad Trawsnewid yn cynnwys pobl sy’n gysylltiedig â thrawsnewid ar draws Cymru a Lloegr. Y bobl yma fydd yn gyfrifol am benderfynu cyfeiriad ein mudiad yn y dyfodol, a sut y byddwn yn cydweithio er mwyn gwireddu hyn. 

Mae pwy sydd yn yr ystafell yn bwysig o ran gwneud penderfyniadau. Felly rydym am greu gofod i bobl sydd â phrofiadau bywyd gwahanol sy’n rhan o’n Mudiad a’n cymdeithas i fod yn bresennol, i gael dweud eu dweud a helpu llunio’r dyfodol. Nid yw’n ddigon i obeithio taw dyna fydd yn digwydd – mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae er mwyn cyflawni hyn. 

I sicrhau y gall llawer o grwpiau o Gymru a Lloegr fod yn bresennol yn y Cynulliad, rydym yn cadw lle ar gyfer uchafswm o ddau gynrychiolydd o bob grŵp Trawsnewid.  Mae hwn hefyd yn wahoddiad i grwpiau fyfyrio’n drwyadl o ran pwy ddylai ddod ar eu rhan nhw, ac er mwyn rhoi cyfle i bawb glywed lleisiau a safbwyntiau gwahanol. Rydym wedi llunio’r canllawiau hyn i’ch helpu gwneud hyn.

Bydd y Plethwyr Rhwydwaith yn ymgysylltu â grwpiau gyda sgiliau a phrofiadau penodol er mwyn rhannu – neu sy’n dod o ardaloedd heb gynrychiolaeth ddigonol ledled y wlad – er mwyn helpu sicrhau y caiff lleisiau amrywiol yn yr ystafell eu clywed. 

Hefyd bydd gwahoddiad i lond llaw o gynrychiolwyr sefydliadau cysylltiedig ymuno â ni, i ddod â’u safbwyntiau nhw o ran y cyd-destun ehangach sy’n berthnasol inni. 

Rhai agweddau ymarferol 

Cost

Diolch i’n cyllid trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, does dim tâl am docynnau. Cydnabyddir y bydd gan ein cyfranogwyr gostau teithio, llety a chostau eraill i’w talu efallai. Bydd cymorth ariannol ar gael i helpu pobl oresgyn rhwystrau economaidd o ran bod yn bresennol, a sicrhau fod ein digwyddiad yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.  Adeg archebu lle, mae croeso ichi gyfrannu ar sail ‘talu’r hyn a fynnoch’, er mwyn ehangu ein gallu i ddarparu’r cymorth ariannol yma. 

Lleoliad

Cynhelir ein sesiynau yn lleoliad Seashell Trust yn Swydd Gaer, elusen sy’n cefnogi pobl ifanc gydag anableddau. Mae’r lleoliad yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn, a byddem yn hoffi clywed am unrhyw gymorth ymarferol neu anghenion cymorth arall fyddai’n eich galluogi i gymryd rhan.  Gallwch ein hysbysu am y rhain adeg archebu lle.

Llety a Theithio

Nid digwyddiad preswyl yw hwn. Byddwn yn rhannu manylion rhai o’r opsiynau llety lleol a chyngor o ran teithio i’r lleoliad erbyn 15fed Tachwedd. Rydym yn gobeithio trefnu prisiau gostyngedig mewn gwestai lleol, a’r opsiwn o aros gydag aelod o’r mudiad Trawsnewid lleol. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda chostau teithio a llety, cofiwch ddweud wrthym adeg archebu eich lle.

Bydd cyfle i gwrdd â’r tîm Plethwyr Rhwydwaith sy’n cynllunio’r Cynulliad Trawsnewid, wrth iddynt rannu eu gweledigaeth ar gyfer y digwyddiad, yma

Os hoffech archebu tocyn Cymraeg, anfonwch ebost atom ar events@Transitiontogether.org.uk a byddwn yn trefnu hynny. 

Skip to content