Transition Together

Mae Transition Together yn cefnogi’r mudiad Trawsnewid ar draws Prydain Ii ddatblygu a thyfu.  Gwneir hyn drwy helpu grwpiau i gysylltu ag a dysgu gan ei gilydd, rhannu straeon ysbrydol, ein gofod rhwydweithio ar-lein Vive, dosbarthu grantiau cyllid sbarduno a rhedeg gweithdai a digwyddiadau. Byddwn hefyd yn cefnogi datblygu strwythur cynrychioladol o safbwynt democrataidd sy’n gallu cydlynu’r mudiad ar draws Cymru a Lloegr.

Os ydych yn yr Alban, cysylltwch â’n Partneriaid yno  Scottish Communities Climate Action Network sy’n cyflenwi hyfforddiant, cymorth a chyngor ar gyfer y mudiad Trawsnewid yn yr Alban.

Rydym yn rhan o’r  CTRLShift Coalition ac yn cydweithio gyda sefydliadau cymunedol eraill ar draws Prydain i feithrin gwydnwch cymunedau a symud tuag at drawsnewid cyfiawn.

United Kingdom

Y Mudiad Trawsnewid

Mae Transition Together yn rhan o fudiad rhyngwladol o gymunedau sy’n dod at ei gilydd er mwyn ail-ddychmygu ac ail-adeiladu ein byd. Ers 2005, mae miloedd o grwpiau wedi datblygu mewn pentrefi, dinasoedd, prifysgolion ac ysgolion mewn dros 50 o wledydd.

Diben Trawsnewid yw pobl sy’n gweithredu ar lefel ymarferol yn yr ardal leol i ymdrin â’r heriau mawr sy’n eu hwynebu.  Ar lefel ymarferol, mae’n golygu sefydlu prosiectau ynni adnewyddadwy, adleoli systemau bwyd, sbarduno entrepreneuriaeth, ail-wylltio dinasoedd, creu mannau cymunedol pwysig a magu cysylltiadau a chymorth.

Yr hyn sy’n golygu fod y mudiad trawsnewid yn unigryw yw ei ymrwymiad i Egwyddorion Trawsnewid. Ein nod yw parchu cyfyngiadau o ran adnoddau a chreu gwydnwch, hyrwyddo cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol, talu sylw at gydbwysedd, datganoli grym, arbrofi ac annog dysgu, cydweithredu a meithrin gweledigaeth a chreadigaeth gadarnhaol.

Mae grwpiau trawsnewid ledled y byd yn cael eu cefnogi gan yr elusen  Transition Network  sy’n gweithio i ysbrydoli, cysylltu a hyfforddi cymunedau wrth iddynt drefnu eu hunain o gwmpas y model Trawsnewid.

Mwy o wybodaeth
Skip to content