Cymorth

Rydym yn cynnig cymorth i helpu grwpiau Trawsnewid ledled Cymru a Lloegr i ddatblygu a thyfu. Gwneir hyn drwy gysylltu grwpiau, eu helpu i ddysgu gan eraill, grantiau cyllid sbarduno, hyfforddiant a gweithdai, a rhannu adnoddau megis y Canllawiau Gweledigaeth.

Rydym yn rhedeg digwyddiadau rheolaidd ac untro trwy gydol y flwyddyn, ac mae rownd ddiweddaraf ein grantiau cyllid sbarduno ar agor tan Ionawr 2024.

Os ydych yn chwilio am gymorth yn yr Alban, cysylltwch â’n partneriaid yno – Scottish Communities Climate Action Network yma.

Seeding

Cyllid sbarduno

Mae’r rhaglen cyllid sbarduno’n cynnig grantiau i Grwpiau Trawsnewid fagu capasiti a chynyddu effaith yn y gymuned leol.

Gall y grantiau helpu grwpiau i dalu am gostau cydlynu neu gostau craidd; i ddatblygu mentrau megis menter gymdeithasol, canolfan argyfwng hinsawdd neu ardd gymunedol; i redeg proses llunio gweledigaeth; cael mynediad at hyfforddiant neu ddatblygu partneriaethau i gydweithio gyda grwpiau mwy ymylol yn y gymuned leol.

Mae’r grantiau’n amrywio o £100 – £10,000. 

Visioning

Canllawiau Llunio Gweledigaeth

Dod â’r gymuned ynghyd i ail-ddychmygu dyfodol gwell trwy ddefnyddio’r Canllawiau llunio Gweledigaeth.

Mae’r canllawiau yn eich tywys trwy broses syml ac effeithiol o dri cham i’ch cefnogi i weithio gyda’r gymuned leol i ofyn cwestiynau pwysig Beth petai? fydd yn cysylltu â’ch dychymyg ac yn eich helpu ar y cyd i greu’r dyfodol delfrydol.

Mae’r broses yn galluogi cydweithio, cyd-ddylunio, ac yn benodol mae’n galluogi amlygu achosion tyndra er mwyn delio gyda nhw i ddatblygu teimlad o berchnogaeth ar y cyd a chadernid, gan osod y sylfaen er mwyn gwireddu newid.

Dowload Here

Hyfforddiant a Gweithdai

Rydym yn cynnig gweithdai a hyfforddiant i gefnogi grwpiau Trawsnewid i ddysgu sgiliau newydd fydd yn cynyddu eu gallu i gael effaith drawsnewidiol yn y gymuned leol.

Mae’r rhain yn amrywio o weithdai rhannu sgiliau unigol i raglenni dysgu hirach trwy gymheiriaid.

Rydym wrthi’n deall anghenion hyfforddi grwpiau ar draws Cymru a Lloegr ar hyn o bryd. Byddwn yn lansio ein rhaglen hyfforddi newydd yng Ngwanwyn 2022.

Resources

The Transition movement has a wealth of useful resources and guides to support to do transition in your local community. We have featured some of our favourites below.  You can find more resources on Transition Network’s website here.

Skip to content