Grwpiau

Mae’r mudiad Trawsnewid yn cynnwys cannoedd o bobl o bedwar ban byd, sy’n dod at ei gilydd i sefydlu grwpiau Trawsnewid. Seilir y grwpiau Trawsnewid yn eu cymunedau unigol, felly mae pob un ychydig yn wahanol. Maeny yn ymdrechu i fod yn gynhwysol ac maent yn cael eu harwain gan bobl leol sy’n penderfynu beth sydd fwyaf pwysig yn eu sefyllfa nhw.

O safbwynt ymarferol, hwyrach eu bod yn gweithio i sicrhau bod mwy o fwyd lleol ar gael, neu sefydlu mentrau cymunedol a phrosiectau ynni, neu i wella mannau lleol. Gall grwpiau ddatblygu prosiectau gwahanol, ond mae rhai pethau’n gyffredin i bawb. Mae gennym freuddwydion mawr ac rydym yn gofyn cwestiynau megis sut gall ein cymuned edrych, ac wedyn byddwn yn torchi llewys i wireddu hynny. Byddwn yn defnyddio dulliau creadigol i adeiladu dyfodol gwell, ac estynnir gwahoddiad i bawb gymryd rhan ac wedyn dathlu.

Peth hynod gyffrous yw cyfrannu at lunio eich cymuned leol – a gwneud hynny gydag eraill, fel grŵp; mae’n fwy o hwyl, yn fwy effeithiol ac yn fwy tebygol o barhau. Hefyd gallwn fanteisio ar brofiadau cannoedd o grwpiau Trawsnewid eraill ledled y byd.

Gall unrhyw un sefydlu neu ymuno â grŵp Trawsnewid.  Chwiliwch am grŵp lleol isod, neu cymerwch gip ar yr adnoddau er mwyn cychwyn grŵp yn eich ardal leol chi.

Transition Groups

Map y Rhwydwaith Trawsnewid

Map Loading…

Chwilio am grwpiau ym Mhrydain

Cael hyd i grwpiau a mentrau Trawsnewid yn eich ardal chi

Ymunwch â ni ar Gyfryngau Cymdeithaso

Skip to content