Gofalu am sgwrs hollbwysig
23 Chwefror 2023
7 minute read
Ym mis Gorffennaf 2022, daeth grŵp o bump ‘Gofalwr’ at ei gilydd i ystyried fframwaith ar gyfer dyfodol y mudiad Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr.
Ers hynny, mae Phil, Monica, Kate, Declan ac Amy wedi cwrdd ar-lein bob mis, ac wedi cynnal sgyrsiau dwfn, cyfoethog a heriol, er mwyn ystyried sut y caiff Trawsnewid ei drefnu mewn gwledydd eraill y byd, ac i ddylunio proses er mwyn cynnwys y mudiad ehangach yng Ngwanwyn 2023 wrth greu strwythur ar gyfer Cymru a Lloegr yn y dyfodol. Bydd unigolion a grwpiau trawsnewid yn cael cyfle i gwrdd â’r grŵp gofalwyr a bod yn rhan o’r drafodaeth hollbwysig hon yn gynnar y flwyddyn nesaf. Yn y blog hwn sy’n dilyn cyfarfod cyntaf y grŵp wyneb yn wyneb, mae Amy Scaife yn rhannu eu taith hyd yn hyn wrth iddynt ddatgelu cwestiynau mawr ar gyfer pob un ohonom, a dechrau llunio llwybr drwy’r broses.
Mae i natur ansawdd ffractal a hardd, sef ail-adrodd patrymau gyda phatrymau. Mae capilarïau’r ddeilen yn dilyn yr un patrwm o ran canghennau â’r brigau a changhennau atodol. Wrth edrych yn fanwl ar gymylau, morliniau, afonydd a gwreiddiau, mae gwythiennau a chapilarïau yn cludo dŵr a gwaed, mae trefniadau ailadrodd yn nythu dro ar ôl tro o fewn eu hunain.
Mae’r Rhwydwaith Trawsnewid wedi lledu fel myseliwm godidog o gwmpas y blaned, gan greu rhwydweithiau o fewn rhwydweithiau i ategu twf organebau cymunedau byw sy’n gwthio yn ôl yn erbyn peirianneg gyrydol ac echdynnol cyfalafiaeth neo-ryddfrydol, a seilir ar danwydd ffosil. Caiff gwybodaeth, ysbrydoliaeth a gofal eu cyfnewid fel y caiff siwgr a mwynau eu cyfnewid ymhlith ffilamentau ffwng a mân flew gwreiddiau coed.
Mae hybiau Trawsnewid wedi ymddangos mewn gwledydd a rhanbarthau ym mhedwar ban byd, pob un ohonynt yn cefnogi ecosystemau unigryw Trawsnewid yn eu lleoliad nhw, gyda hyfforddiant, ysbrydoliaeth a chefnogaeth strwythurol, ac yn aml mewn ffyrdd sy’n benodol i’r rhanbarth dan sylw.
Ydy hyb yn debyg i goeden mewn coedwig, gyda chysylltiadau â’r rhwydwaith myseliwm Trawsnewid, yn cynnig cynefin, cysgod a maeth i’r amrywiaeth eang o organebau cymunedol sy’n tyfu ac yn ffynnu ymhlith y rhisgl a’r canghennau? Ac os taw coeden yw’r hyb, a ddylid cael coeden (neu goed) unigryw ar gyfer Cymru a Lloegr?
Dyma’r math o gwestiynau dyrys a drafodwyd gan y Grŵp Gofalwyr dros y misoedd diwethaf. Adeg cychwyn, ymddengys ei fod yn eithaf syml. Beth fyddai hyb yn edrych fel ar gyfer Cymru a Lloegr? Ond wedyn wrth edrych yn fanylach, daeth natur ffractal y cwestiwn yn amlwg. Ai trwy hybiau mae grwpiau’n siarad â’i gilydd? Sut byddwn yn siarad â’n gilydd? Sut byddwn yn siarad â’n gilydd yn y gymuned? Pwy sy’n siarad? Pwy sydd ddim yn siarad? Trafod yn drylwyr, cwestiynau o fewn cwestiynau, mae’r ffiniau’n pylu, yr amwysedd yn creu ei densiwn ei hun. Am y 6 mis cyntaf, trwy gyfrwng Zoom, oedd yn ychwanegu haen arall o ddat-wybod. Mae cwestiwn am berthnasau’n golygu bod y berthynas yn iawn yn y lle cyntaf, gall hyn fod yn heriol trwy gasgliad o sgriniau bach o fewn sgrin.
Wrth feithrin y Grŵp Gofalwyr, arferwyd gofal. Profiadau bywyd gwahanol, sgiliau gwahanol a phrofiadau gwahanol o’r Mudiad Trawsnewid. Mae rhai ohonom yn ffynnu mewn dyfroedd symudol cwestiynau eang; mae eraill yn ffynnu trwy wneud a gweithredu. Yn y pendraw llwyddwyd i ddod at ein gilydd ym mis Tachwedd yn Birmingham, pleser o’r mwyaf oedd gallu bwyta gyda’n gilydd, chwerthin a datblygu dealltwriaeth gyffredin tu hwnt i gyfyngiadau sgriniau.
Mae Richard Couldrey, sy’n aelod o dîm Trawsnewid gyda’n Gilydd wedi bod yn cefnogi gwaith y grŵp. Nododd pa mor hollbwysig oedd mynd o dan yr wyneb: “Mae’r cyfnod o sefydlu’r grŵp wedi bod yn anodd, oherwydd mae pawb yn gweithio o bell, felly roedd yn anhygoel gallu cwrdd wyneb yn wyneb yn Birmingham tua diwedd mis Tachwedd. Mae meithrin perthynas yn allweddol i gydweithio’n dda, ac roedd clywed lleisiau ein gilydd, gweld ffyrdd eraill o weithio wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ddwysáu ein dealltwriaeth a’n ffydd yn ein gilydd.”
Mae pawb yn dod â sgiliau gwahanol i’r hyb; un o’m sgiliau i yw dweud straeon. I gychwyn ar ôl cael cais i ysgrifennu blog am ein stori hyd yn hyn, cyfarfod Birmingham, a’n taith i’r dyfodol, dyma fi’n meddwl, ‘Ie, rhwydd! Gallaf wneud hynny!’ Fodd bynnag, wrth edrych ar sgrin wen, nid oedd hi mor hawdd. Sut i gyfleu natur gymylog, newidiol ein sgyrsiau hyd yn hyn yn rhywbeth mwy na rhestr o eiriau cysylltiedig, ond stori’n hytrach? Panig mawr. Trwy lwc, dyma fy rhwydwaith myseliwm yn f’atgoffa nad wyf ar fy mhen fy hun. Unwaith eto roedd cwestiynau ac atebion ynghlwm wrth ei gilydd. Yn sgil fy nghais am gymorth, dyma lu o ofal ac ysbrydoliaeth yn llifo i’m cyfeiriad. Wrth edrych yn fanylach, neu’n llai manwl, roedd yr ateb yno bob tro, hyd yn oed yn enw’r grŵp ei hun, y Grŵp Gofalwyr.
Roedd y gair gofal yn ymddangos dro ar ôl tro mewn trafodaeth fendigedig amrywiol a gefais gyda’r menywod rhyfeddol sy’n rhan o hyb Brazil. Gofalu am ein gilydd, gofalu am ein cymunedau, y tir, ein dyfodol a’r gorffennol. Meithrin perthynas, ffydd a sut mae angen amser i wneud y pethau hyn, ac sydd eto mor hollbwysig o ran y ffordd y mae Trawsnewid yn datblygu o gwmpas y byd. Rwyf yn llawn cyffro am siarad gydag a dysgu gan fwy o hybiau rhyngwladol, i drochi mewn pridd cyfoethog doethineb a pharodrwydd eraill i gynnal ein rhwydwaith. Hefyd mae’r sgyrsiau hyn yn digwydd yn nes at adref, gydag aelodau eraill y Grŵp Gofalwyr yn cyfweld ag aelodau hybiau ledled y DU.
Dywed Phil Frodsham o’r grŵp, fod eu deialog nhw’n mynd ymhell tu hwnt i gwestiynau proses a strwythur: “Dywedodd David Fleming ‘Peidiwch â gwneud unrhyw beth sy’n bwysig heb ei drafod yn gyntaf’ ac mae hyn yn teimlo fel cyfle gwych i’r mudiad Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr gael sgwrs am le rydym ar hyn o bryd a lle rydym am fynd nesaf. Ac mae hynny’n achos cyffro mawr imi!”
Ochr yn ochr â threfnu cyfweliadau gyda chynrychiolwyr hybiau, yn lleol a thramor, byddem yn hoffi cynnal sgwrs gyda chi, gydag unrhyw unigolyn sy’n gysylltiedig â’r mudiad Trawsnewid. Byddem yn hoffi gwybod: “Beth mae’n ei olygu ichi fod yn rhan o’r Mudiad Trawsnewid?”
Mae’n gwestiwn eang iawn, ac yn ddefnyddiol iawn i helpu ein llywio wrth inni ganolbwyntio eto ar y llwybr fydd yn siapio’r cynnig am hyb. Cwestiwn dechreuol yw o drafodaeth hirach gyda lwc, gyda phob un ohonoch. Fe’i cynigir yn awr fel man cychwyn ichi gyfarwyddo â’r daith gyda ni – naill ai ichi fyfyrio arno fel unigolyn neu gellir rhannu eich sylwadau trwy Vive wrth inni baratoi’r tir i ehangu’r drafodaeth bwysig hon.
Rwyf am eich gadael gyda geiriau fy nghyd-ofalwr Kate, oherwydd imi, maent yn crynhoi cymaint o’n taith hyd yma, a’r cyfeiriad i’r dyfodol:
“Mae’r gwaith yma’n gyfle mor gyfoethog – yn rhannol trwy weithio gyda grŵp o bobl mor wybodus ac ysbrydoledig, ac yn rhannol oherwydd bod y gwaith ei hun mor ddiddorol. Teimlaf ein bod yn dychwelyd i’r sylfeini yn ein sgyrsiau gyda phobl ledled y wlad – ac yn y broses o ystyried buddion potensial Hybiau Trawsnewid, rydym yn darganfod gwir ystyr a gwerth Trawsnewid ei hun – sydd, ar adeg newid mor sydyn, yn teimlo’n hanfodol.”