Hyfforddiant

Mae gweithio er newid dan arweiniad y gymuned yn brofiad llawn y mân a’r mawr, llawenydd a rhwystredigaeth, llwyddiannau a heriau. Mae’n hanfodol cael grŵp cryf, llewyrchus a seilir ar sylfeini cadarn.

Trwy ddefnyddio’r profiad maith o du fewn a thu allan i’r mudiad Trawsnewid, diben ein hyfforddiant yw darparu’n benodol ar gyfer grwpiau Trawsnewid, ac mae’n llawn adnoddau, arfau ac arferion defnyddiol i helpu eich grŵp i ddechrau ar y trywydd iawn, ffynnu a thyfu.

Mae ein cyllid yn golygu y gallwn gynnig yr hyfforddiant yma heb unrhyw ffioedd ar hyn o bryd, er byddem yn croesawu rhoddion ar sail ‘talu’r hyn y gallwch’, i’n helpu ehangu eich hyfforddiant a chefnogaeth ym maes gweithredu cymunedol ar yr hinsawdd.

Training
Launch

Lansio

Cyflwynir y gweithdy undydd hwn ar-lein i unrhyw un sy’n ystyried, neu sydd ar ganol cychwyn grŵp Trawsnewid newydd. Dyma’r ffordd berffaith i ddysgu mwy am y mudiad Trawsnewid, yr hyn sy’n gwneud ein grwpiau’n unigryw, a bydd yn rhoi llwyth o arfau a thechnegau ymarferol ichi gychwyn arni gyda sylfeini cadarn.

Cynhelir sesiynau hyfforddiant Lansio nifer o weithiau bob blwyddyn. 

Scale Up

Ehangu

 

Diben y cwrs hwn yw cefnogi grwpiau Trawsnewid llewyrchus i ehangu eich effaith ar lefel sylweddol. Rhaglen 6 mis yw hon, fydd yn cychwyn ddechrau  2023 ar gyfer dim ond 5 grŵp, i gynnig cymorth pwrpasol un-i-un i helpu eich grŵp symud eich gwaith i’r lefel nesaf. Byddwch yn derbyn cefnogaeth mentor, amrediad o arbenigwyr gwahanol sy’n meddu ar wybodaeth ac arbenigedd hynod ddefnyddiol, a byddwch yn rhan o brofiad dysgu ymhlith grwpiau Trawsnewid eraill. Mwy o fanylion ar gael yn fuan.

Mwy o wybodaeth yn fuan
Thrive

Ffynnu

Mae’r cwrs chwe wythnos hwn ar gyfer grwpiau Trawsnewid sy’n bodoli eisoes, a bydd yn eich cefnogi i ddatblygu, tyfu a chynyddu eich effaith.  Hwyrach eich bod yn wynebu heriau fel grŵp, yn cael trafferth denu pobl newydd, neu hwyrach y byddech yn hoffi archwilio cyfeiriad a ffocws newydd. Os felly, dyma’r cwrs perffaith ichi. Cynhelir y cwrs bob nos Lun am gyfnod o 6 wythnos.

 

Er mwyn cymryd rhan, gofynnwn i ddau aelod neu fwy o’ch grŵp cofrestru gyda’ch gilydd, i sicrhau y gellir ymwreiddio a rhannu’r hyn a ddysgir ymysg aelodau’ch grŵp.

Skip to content