Sero –Canolfan Amgylcheddol Cymunedol newydd Caerfyrddin
14 Chwefror 2024
3 minute read
Yn dilyn misoedd lawer o gynllunio a thrafodaethau, agorwyd drysau Canolfan Amgylcheddol Cymunedol newydd Caerfyrddin Gyda’n Gilydd o’r diwedd, yng nghanol tref Caerfyrddin.
Nod y canolfan yw dod â chysyniadau gwydnwch, adfywio, economi cylchol ac adeiladu cymunedol yn fyw, a helpu pobl ledled yr ardal i ddod at ei gilydd, dysgu sgiliau newydd a chefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod heriol sydd ohoni.
Ymhlith y prosiectau sy’n digwydd eisoes mae: Caffi Atgyweirio rheolaidd, Llyfrgell Pethau, a New2U, cynllun cyfnewid teganau a dillad plant.
Rydym newydd ddechrau rhedeg nosweithiau ffilm rheolaidd bob mis, a newydd lansio cyfres o weithdai, sy’n cael eu rhedeg gan bobl leol, i ddysgu sgiliau a chrefftau, sydd yn anffodus yn cael eu colli.
Mae Sero hefyd yn gartref corfforol i lawer o brosiectau eraill Caerfyrddin Gyda’i Gilydd, sy’n cynnwys gweithgorau sy’n canolbwyntio ar dyfu bwyd, ynni, gwastraff, ansawdd dwr ac addysg.
Mae cyfran helaeth o boblogaeth Caerfyrddin yn siarad Cymraeg, ac un o’r heriau a wynebir yw sicrhau ein bod yn parchu iaith a diwylliant yr ardal heb unrhyw aelod o’n tîm craidd gwreiddiol sy’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.
Er gwaethaf hyn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod ein holl ddeunyddiau cyfathrebu’n ddwyieithog, oedd yn eithaf anodd nes inni lwyddo i ddenu tîm bach ond hynod ragweithiol, sydd bellach yn gwneud ein holl waith cyfieithu inni ac sydd wedi agor drysau i ran o’n cymuned a fu, tan hynny, ar gau inni.
Mae ein lleoliad yng nghanol y dref yn bwysig iawn inni. Gwyddom fod llawer o bobl yn cael eu bachu gan agwedd brynwriaethol ac roeddem am fynd benben gyda’r ffordd hon o fyw, trwy ddod ag opsiwn amgen i’r Stryd Fawr, yn hytrach na bod yn rhywbeth sy’n cuddio mewn stryd gefn yn rhywle.
Hyd yma, mae’r ymateb a gafwyd wedi rhoi anogaeth fawr inni. Rydym eisoes wedi siarad gyda channoedd o bobl; a heb ein canolfan mae’n bur debyg na fydden nhw byth wedi dod ar draws Caerfyrddin Gyda’i Gilydd a’i waith.
Ein gobaith ar gyfer y dyfodol, yw y bydd canolfannau fel ein canolfan ni’n gyffredin ar Strydoedd Mawr y genedl gyfan, a byddwn bob tro’n awyddus i siarad gydag eraill sydd eisoes yn gwneud rhywbeth tebyg, neu sydd efallai yn y broses o ystyried ‘Beth petai?”
Darganfod mwy: https://sero.org.uk/ a https://carmarthen-together.vercel.app/cy.