Y cam nesaf ar gyfer Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr
27 Gorffennaf 2022
8 minute read
Nôl ym mis Tachwedd, cyflwynwyd ‘Transition Together’ ichi, sef prosiect a gyllidwyd trwy’r Loteri i dyfu a chefnogi’r mudiad Trawsnewid yn y DU. Mae’n adeiladu ar brosiect Transition Bounce Forward ac mae tîm bach yn gweithio’n galed ar ‘Transition Together’ to ymateb i’r hyn a nodwyd gennych, fel grwpiau, oedd eich blaenoriaethau, ac yn helpu grwpiau i gysylltu, yn lledu straeon sy’n llawn ysbrydoliaeth, yn rhedeg cynllun grantiau cyllid sbarduno ac yn trefnu gweithdai, hyfforddiant a digwyddiadau.
Mae creu lle i feithrin strwythur cynrychioladol a democrataidd yn ganolog i’r prosiect hwn, er mwyn i bobl ym maes Trawsnewid eu hunain siapio a llywio datblygiad ein gwaith a’r mudiad yng Nghymru a Lloegr ar gyfer y dyfodol.
Mae’r model yn bodoli fel rhan o’r mudiad Trawsnewid ar lefel fyd-eang. Ers i Drawsnewid dod i’r amlwg rhyw 15 mlynedd yn ôl, fel syniad ac fel arfer i ennyn newid dan arweiniad y gymuned, mae grwpiau wedi dechrau trefnu mewn gwledydd megis Brazil a Japan, yr Unol Daleithiau i’r Almaen, ac o Awstralia i Dde Affrica. Mewn llawer o’r llefydd hyn, mae Hybiau wedi datblygu hefyd, er mwyn cefnogi a chysylltu grwpiau Trawsnewid gydag adnoddau priodol o safbwynt diwylliannol.
Hyd yn hyn, nid yw hynny wedi digwydd yng Nghymru a Lloegr. Un theori am hyn, yw bod rhai o’r trefi Trawsnewid wedi dod i’r amlwg yn Lloegr, a chynhyrchwyd y canllawiau cynharaf sydd ar gael i gyflawni Trawsnewid, efallai nad oedd grwpiau yn y wlad hon yn teimlo’r un angen ar gyfer sefydliad i’w cefnogi’n lleol.
Ond 15 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n amlwg y gallwn wneud llawer mwy i gysylltu, rhannu profiadau, dysgu, tyfu a chefnogi ein gilydd fel mudiad. Ar hyn o bryd mae grwpiau Trawsnewid newydd yn cael eu sefydlu; mae grwpiau sy’n bodoli eisoes yn ystyried ble i fynd nesaf, ac rydym yn gweld mwy o bryder ymhlith y cyhoedd o ran y ffyrdd anghynaliadwy sy’n gweithredu o fewn ein cymdeithas, ein heconomi a’n cymunedau.
Mwy nag erioed, mae ar gymunedau angen gweithredu ar yr hinsawdd ar lawr gwlad, ynghyd ag atebion ymarferol a’r weledigaeth a gynigir gan grwpiau Trawsnewid. A byddai Hwb yn cefnogi’r mudiad i ehangu a chryfhau yng Nghymru a Lloegr, gan wasanaethu’r grwpiau a’r unigolion sy’n gysylltiedig â nhw. Hefyd, byddai’n gyfrwng inni gysylltu â’r 25 Hwb rhyngwladol sy’n bodoli eisoes, i ddysgu gan a rhannu gyda grwpiau Trawsnewid ledled y byd.
Rhwng hyn a Haf 2023, bydd ‘Transition Together’ yn cynnal sgwrs agored ac eang ynghylch yr hyn y gall Hwb ei wneud ar gyfer y mudiad a sut y gellir ei drefnu i’ch cefnogi chi. Enw’r grŵp sy’n arwain y daith hon yw’r Grŵp Gofalwyr.
Cwrdd â’r Grŵp Gofalwyr
Yn gynharach yn 2022, cynhaliwyd proses agored o recriwtio i gael hyd i 5 o bobl i fod yn rhan o’r Grŵp Gofalwyr. Mae pob un ohonynt yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r drafodaeth, o du fewn a thu allan i’r Mudiad Trawsnewid, ac maent yn dod o lefydd a chefndiroedd gwahanol. Pleser o’r mwyaf yw cael eu cyflwyno ichi!
Monica Cru-Hall
Mam, athrawes, SENDco ac artist creadigol ydw i sy’n arbenigo mewn bibliotherapi a dramatherapi. Rwyf yn helpu pobl i fyw gyda’i gilydd a llifo’n hyblyg o fewn continwwm yr ‘emosiynau mawr’ maent yn dod ar eu traws efallai. Ac roeddwn yn rhan o’r Tîm Rhaglennu a Hwyluso ar gyfer Uwchgynhadledd Gallwn gyda’n Gilydd ym mis Mai.
Fy nod pennaf yw sicrhau fod pob unigolyn rwyf yn dod ar ei draws yn gwireddu ei botensial llawn, hyd yn oed os na ddychmygwyd hyn eto, trwy leihau cymaint â phosibl unrhyw effeithiau negyddol trawma yn y gorffennol, gan gynnwys trawma hiliol hirsefydlog.
Declan D’Arcy
Mae llawer o’m brwdfrydedd ar gyfer gweithredu cymunedol yn deillio o’r groesffordd rhwng prosesau trawsnewidiol sy’n gysylltiedig â natur a rhai rhyfedd, anwladychol sy’n deall trawma. Rwyf yn gysylltiedig â nifer o sefydliadau, ac mae pob un ohonynt yn gweithio i greu ymwrthedd a pharodrwydd i addasu sy’n hynod gynhwysol ac adfywiol tuag at ein cymdeithas a’n hecoleg sy’n datod ar hyn o bryd. Yr hyn sy’n fy nghyffroi am y Grŵp Gofalwyr yw’r potensial i gyfrannu at daith a fydd efallai’n cefnogi adnoddau a chapasiti grwpiau amrywiol ar draws y wlad. Mae meithrin mudiadau gwydn, sy’n cyfathrebu’n effeithiol ac sy’n gysylltiedig yn teimlo mor hanfodol yn y cyfnod sydd ohoni, ac edrychaf ymlaen at yr hyn y gallwn ei greu gyda’n gilydd i ategu hyn.
Phil Frodsham
Rwyf yn aelod o grŵp Trawsnweid New Mills ers dros ddegawd. Mae fy mrwdfrydedd ym maes agor a hwyluso mannau i helpu tyfu capasiti o fewn ein cymunedau – o rwydweithiau rhanbarthol i gynulleidfaoedd dinasyddion a hybiau hinsawdd lleol. Yn fy amser hamdden, rwyf yn beicio mynydd, yn gerddor ac yn garddio. O safbwynt y grŵp gofalwyr, mae fy nghwestiynau fel a ganlyn – sut gallwn ddechrau ehangu a lledu ein gwaith, gan gadw ein cysylltiadau dynol yr un pryd? Sut gallwn ddechrau seilwaith dychymyg sy’n gallu cefnogi pob un ohonom? A sut gall Hwb ar gyfer Cymru a Lloegr gefnogi’r holl waith yma? Sut olwg fydd arno? Sut bydd o’n teimlo? Mae’n swnio’n hynod gyffrous imi!
Kate Gathercole
Gyda chefndir amrywiol ym maes y celfyddydau a theatr, dros y degawd diwethaf, rwyf wedi gweithio gyda phobl leol eraill i feithrin hwb rhanbarthol sirol gweithgar. Mae’r broses sy’n datblygu ar draws hwb yn llawn cyffro – ac mae teimlad fod ei angen. Mewn blynyddoedd diweddar, mae fy ngwaith wedi canolbwyntio ar ddulliau i greu newid sy’n arwain at bobl yn cael gwell cysylltiadau gyda’i gilydd, eu cymuned, a’r byd yn gyffredinol. Fy ngobaith yw y bydd y Grŵp Gofalwr yn gyfle i ehangu ar y gwaith yna.
Amy Scaife
Ffotograffydd ac unigolyn brwdfrydig ym maes yr hinsawdd, rwyf yn cael seibiant ar hyn o bryd o’m gwaith ffotograffiaeth i ganolbwyntio ar hwyluso trafodaethau dewr, i freuddwydio am syniadau mawr a chysylltiadau cymunedol trwy hubRen, beic cargo a ailwampiwyd o adnoddau hinsawdd. Trwy ganolbwyntio ar atebion a newidiadau systemig, mae’n wahoddiad i ddychmygu a chreu gyda’n gilydd dyfodol sy’n ddiogel o safbwynt yr hinsawdd, ac sy’n deg inni oll – diolch i gyllid sbarduno ‘Transition Together Bounce Forward 2021’.
Hefyd mae gennym gysylltiad gyda Bwrdd Ymddiriedolwyr y Rhwydwaith Trawsnewid trwy Peter Lefort a chysylltiad â phrosiect ‘Transition Together’ trwy Richard Couldrey a Mike Thomas.
Beth fyddwn yn ei wneud?
Byddwn yn creu lleoedd a chyfleoedd i glywed gennych chi, unigolion sy’n rhan o’r mudiad Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr mewn perthynas â sut dylai mudiad cymorth ymddangos er mwyn bodloni eich anghenion yn y ffordd orau. Pa nodau, swyddogaeth a diben dylai eu cael? Sut mae’n gallu bod yn wydn dros amser? A sut y gellir ei strwythuro er mwyn bod yn ddemocrataidd ac yn atebol ichi? Byddwn yn ystyried sut mae hybiau’n gweithio mewn gwledydd eraill i gael ysbrydoliaeth a chyngor.
Hefyd byddwn yn rhedeg prosiect sy’n canolbwyntio’n benodol ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru, yn weithgaredd o dan deitl Trawsnewid, a mathau eraill o weithgareddau cymunedol sy’n digwydd, er mwyn deall yn well cyd-destun a lle Trawsnewid yng Nghymru.
Erbyn Haf 2023, bydd gennym gynnig ar gyfer eich adborth, a chynllun i ddechrau sefydlu’r Hwb yn ystod 2023/24.
Sut gallwch chi gyfrannu?
Trwy gydol y flwyddyn byddwn yn eich gwahodd i ymgysylltu mewn gwahanol ffyrdd trwy weminarau, arolygon a thrafodaethau. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar hefyd at sefydlu Grŵp Synhwyro o Drawsnewidwyr sydd am gymryd cam yn nes at y prosiect a chymryd rhan mewn trafodaethau dyfnach ar feysydd neu themâu penodol, neu sylwadau cyffredinol trwy gydol y flwyddyn trwy sesiynau ar-lein. Bydd manylion pellach am y grŵp hwn ar gael a gwahoddiad cyffredinol i fod yn rhan ohono, yn yr hydref.
Wrth i’r Grŵp Gofalwyr ddechrau ar ei waith yr wythnos hon, mae’n teimlo fel cychwyn antur enfawr, gyda’r potensial i siapio ein mudiad dros y blynyddoedd i ddod, a’i helpu i gryfhau o safbwynt ei gyrhaeddiad, perthnasedd, effaith a chreadigrwydd. Edrychwn ymlaen at ddarganfod yr hyn fydd yn dod i’r amlwg, ac at rannu hyn gyda chi ar hyd y daith.