Chwilio am Blethwyr Rhwydwaith

Chwilio am Blethwyr Rhwydwaith
Richard Couldrey
30 Ebrill 2024
4 minute read

Er taw grwpiau lleol yw sylfaen ein Mudiad, sy’n gweithio yn eu lleoliadau unigol i ymateb i broblemau mwyaf ein cyfnod, darganfuwyd bod gwerth enfawr yn deillio o gysylltu â’n gilydd. Ar y cyd gallwn rannu, dysgu, cydweithio a chefnogi ein gilydd, a thrwy hynny bydd pob un ohonom yn gryfach.

Nôl yn 2022, lansiwyd trafodaeth ynghylch sut y gellir cysylltu, cefnogi, cryfhau a threfnu’r Mudiad Trawsnewid yng Nghrymu a Lloegr.  Sefydlwyd Grŵp Gofalwyr i ymgynghori gyda Thrawsnewidwyr ac eraill, i ddarganfod sut mae ‘Hybiau Trawsnewid’ yn gwasanaethu grwpiau lleol mewn lleoliadau eraill, ac i gasglu gwybodaeth o ran yr hyn a all weithio yng nghyd-destun y DU. Mae Trawsnewid gyda’n Gilydd a’r tîm ar gael i gefnogi ac ymateb i anghenion grwpiau Trawsnewid – ond sut gall ei waith gael ei lywio gan y Mudiad y mae’n ceisio ei wasanaethu? Pa brosesau neu strwythurau fyddai’n ein helpu i wireddu hynny?

Rydym wedi rhannu Ymchwiliad y Grŵp Gofalwyr, ac ym mis Rhagfyr, y saith egwyddor allweddol a ddeilliodd o ‘Gynnig Hyb’, a gyd-gynhyrchwyd. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am dri Plethwr Rhwydwaith llawrydd i adeiladu ar y seiliau hyn, a symud o’r cyfnod meddwl, siarad a myfyrio i wneud ac adeiladu. Bydd y cam nesaf hwn yn meithrin cysylltiadau, lleoliadau a phrosesau er mwyn ysgogi dialog, a chyd-lunio pennod nesaf y Mudiad Trawsnewid yn y DU.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous ar daith Trawsnewid ar draws y wlad, a chyfle cyffrous i fod yn rhan ohono. Bydd y Plethwyr Rhwydwaith yn teithio ochr yn ochr â grwpiau Trawsnewid a rhwydweithiau rhanbarthol sy’n dod i’r amlwg ac yn parhau i ystyried sut bydd y saith egwyddor yn gweithio ar lawr gwlad.

Bydd y gwaith yn arwain at Gynulliad Trawsnewid fis Chwefror nesaf, fydd yn cael ei gyd-ddylunio gan ein Plethwyr Rhwydwaith a’r Mudiad. Cynulliad ar gyfer y bobl a ysbrydolir gan y bobl fydd hwn, er mwyn ‘llywio’r ffordd’ a pherchnogi cyfeiriad Trawsnewid dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Rôl y Plethwyr Rhwydwaith 

Er mwyn gwireddu hyn, rydym yn chwilio am dri Plethwr Rhwydwaith, fydd yn cael eu cefnogi gan Swyddog Cyswllt Arweiniol Datblygu Hybiau Trawsnewid gyda’n Gilydd, Richard Couldrey. Contractau llawrydd yw’r rhain, sy’n golygu gweithio tua 2 ddiwrnod yr wythnos rhwng Mehefin 2024 a Mawrth 2025. Bydd y Plethwyr Rhwydwaith yn gweithio’n agos â’i gilydd er mwyn cyflawni’r prosiect ac yn cydweithio gyda thîm Trawsnewid gyda’n Gilydd.

Prosiect gyda thîm annheierarchaidd Trawsnewid gyda’n Gilydd yw hwn, sy’n gweithio o bell ac yn arfer egwyddorion ac arferion sosiocratiaeth a hunanreoli i drefnu eu gwaith eu hunain.

Bydd y swyddi’n golygu: 

  • Estyn allan ac ymweld â Grwpiau Trawsnewid a dod â nhw at ei gilydd ar-lein ac wyneb yn wyneb i feithrin cysylltiadau a chryfhau perthnasau.
  • Ystyried ffyrdd eraill i bobl gysylltu â’r Mudiad Trawsnewid tu hwnt i weithgareddau ar lefel leol.
  • Cyd-ddylunio, datblygu, cyflawni a chofnodi canlyniadau Cynulliad y Bobl y Mudiad Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr i’w gynnal ym mis Chwefror 2025, ar y cyd â Swyddog Cyswllt Arweiniol Datblygu Hybiau.

Swyddi sy’n canolbwyntio ar bobl yw’r rhain, sy’n golygu cydweithio gyda Thrawsnewidwyr, Grwpiau Trawsnewid a Thrawsnewid gyda’n Gilydd wrth inni geisio cynrychioli’n well a bod yn fwy atebol i’r mudiad.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un yng Nghymru a Lloegr.  Rydym wedi ymrwymo i ystyried sut y gallwn wneud ein sefydliad yn lle lle gall pobl o gefndiroedd amrywiol, sydd â phrofiadau bywyd tra gwahanol, ac sydd ag anghenion amrywiol, ffynnu.

Gellir cyflwyno cais trwy CV a ffurflen; dylid cyflwyno’r rhain erbyn 13 Mai 2024.  Mae manylion llawn y swydd a manylion o ran sut i ymgeisio ar gael  yma

Os hoffech dderbyn pecyn recriwtio yn Gymraeg, anfonwch ebost at: recruitment@transitionnetwork.org. 

Skip to content