Cychwyn grŵp newydd
I’ch helpu cychwyn Trawsnewid yn eich cymuned chi, lluniwyd ‘The Essential Guide to Doing Transition – Hanfodion Trawsnewid’
Mae’r llawlyfr hwn yn rhoi trosolwg o Drawsnewid ichi, ac yn olrhain yr holl weithgareddau sy’n gallu eich helpu i ddatblygu Trawsnewid yn eich cymuned chi. Mae’n cynnwys straeon gwych gan grwpiau Trawsnewid ledled y byd.
Peidiwch â phoeni os bydd darllen y llawlyfr yn arwain at deimladau o gael eich gorlethu, oherwydd rydym hefyd wedi llunio ystod o weithgareddau, canllawiau a thaflenni gwybodaeth ar y 7 o hanfodion i’ch cefnogi yn ystod y broses. Mae llawer ohonynt yn gysylltiedig hefyd â’r Canllawiau Hanfodol.
Byddwch yn sylwi fod y llawlyfr yn cyfeirio at y prosesau y gellir eu defnyddio; nid yw’n pennu pa brosiectau y dylech eu cyflawni, neu ar ba broblemau y dylech ganolbwyntio. Y rheswm am hyn yw bod Trawsnewid yn seiliedig ar ymatebion lleol i broblemau, a’ch dewis chi yw penderfynu ar beth y byddwch yn canolbwyntio a sut i fframio Trawsnewid ar gyfer eich cymuned chi. Mae llawer o grwpiau wedi datblygu Trawsnewid heb gyflawni’r holl weithgareddau a gyfeirir atynt yn y llawlyfr hwn, felly mae croeso ichi dorri’ch cwys eich hun a byddai’n hyfryd clywed gennych beth sydd wedi gweithio ichi.
Hefyd, cofiwch fod Hyfforddiant Trawsnewid ar gael sef ‘Launch’ sy’n cynnig cyflwyniad gwych i Drawsnewid a sut i gychwyn y broses. Diolchwn ichi am gymryd y cam cyntaf hwn, ac estynnir croeso cynnes ichi i’r teulu Trawsnewid, teulu byd-eang sy’n cymryd camau ar lefel leol i greu byd gwell.
Dyma restr o’r holl adnoddau sydd ar gael i’ch helpu gwireddu Trawsnewid.
- Hanfodion Trawsnewid.
- 7 o gamau hanfodol sy’n cynnwys ystod o adnoddau i’ch helpu datblygu Trawsnewid.
- Gweithgaredd Gwirio Iechyd sy’n eich helpu i asesu sut mae’ch grŵp yn mynd.
- Canllawiau i ddatblygu grŵp craidd unwaith y bydd eich menter Trawsnewid ar waith.
- Cyrsiau hyfforddi sydd ar gael ichi eu dilyn ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Mae’r holl adnoddau hyn yn wych, ond byddem hefyd yn argymell cysylltu â’ch Grŵp Trawsnewid agosaf (os oes un) trwy ein map a threfnu cwrdd â nhw i gael sgwrs am sut wnaethon nhw gychwyn ar y daith Trawsnewid.