Cyllid Sbarduno’n fyw: O hadau mân, mae grwpiau Trawsnewid yn creu cynhaeaf toreithiog

Cyllid Sbarduno’n fyw: O hadau mân, mae grwpiau Trawsnewid yn creu cynhaeaf toreithiog
Chris McCartney
28 Gorffennaf 2022
9 minute read

Roedd pawb yn ymwybodol o hyn eisoes. Gall hadau bach arwain at gnydau niferus, amrywiol a thoreithiog yn nwylo’r gymuned Trawsnewid! Mae mwy na 80 o grwpiau wedi dangos hyn trwy ffrwyth eu llafur a rhaglen cyllid sbarduno’r llynedd trwy ‘Transition: Bounce Forward’. Erbyn hyn, diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn lansio rownd newydd o gyllid sydd ar gael i grwpiau, ac rydym yn llawn cyffro wrth ddisgwyl clywed am eich cynlluniau.

Pobl sy’n rhan o’u cymuned leol sydd mwyaf cyfarwydd gyda’r sefyllfa leol, yr hyn sydd ei angen fwyaf, a beth fydd yn tyfu’n dda. Mae llawer o grwpiau Trawsnewid yn cael eu harwain yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, a gall capasiti fod yn her. Diben y rhaglen hon yw rhoi hwb i helpu magu gwreiddiau cadarn, meithrin eich capasiti, cynyddu eich effaith yn lleol a gwneud rhywbeth fyddai’n amhosibl fel arall.  

Defnyddiodd Transition Wilmslow eu cyllid sbarduno i dyfu prosiectau garddio cymunedol, trwy gymryd cyfrifoldeb am safle newydd ynghlwm wrth Ganolfan Plant; bellach ar y safle mae ganddynt gaffi, twnnel plastic ac maent yn cyflenwi llysiau ffres i fanc bwyd lleol.

Hwyrach y byddwch yn defnyddio’ch grant i lansio prosiect newydd megis canolfan argyfwng hinsawdd; i wella eich gardd gymunedol; i gicdanio trafodaeth leol am greu gweledigaeth, neu ar gyfer digwyddiad anhygoel? Neu gall eich cynorthwyo i ddatblygu eich grŵp trwy gefnogi cydlynu neu gostau staff, eich helpu i feithrin cysylltiadau a rhwydweithiau, neu i weithio trwy gydgefnogaeth gyda chymunedau ymylol. Efallai eich bod yn awyddus i ystyried beth fyddai economi lleol cynaliadwy yn edrych, a gall grant helpu creu bywoliaethau newydd, cydweithfa neu gwmpasu menter gymdeithasol. Gallwch ddysgu mwy isod am sut y defnyddiwyd rownd ddiwethaf y cyllid sbarduno gan grwpiau Trawsnewid.

Mae’r rhaglen cyllid sbarduno hon yn cydnabod fod yr argyfyngau cyfredol sy’n ein hwynebu yn systemig ac yn gysylltiedig â’i gilydd. Ni fedrwn ddatrys newid hinsawdd heb wrando ar a chanolbwyntio ar anghenion y rhai a eithriwyd fwyaf gan ein systemau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol cyfredol. Felly hefyd, ni fedrwn drechu anghyfiawnder cymdeithasol ac anghydraddoldeb heb newid ein perthynas â’r tir a natur. Adlewyrchir y dull hwn o weithio yn y meini prawf ar gyfer y rhaglen eleni, gyda mwy o bwyslais ar brosiectau sy’n mynd i’r afael â chyfiawnder cymdeithasol ac i feithrin bywoliaethau, fel rhan o greu byd gwyrddach, mwy cyfiawn a mwy cynaliadwy.

Eleni, gallwch wneud cais ar gyfer 3 math gwahanol o grantiau: 

  • Micro Grantiau (£100-500) – gall fod ar gyfer costau prosiect bach megis ffi hwylusydd, cyfrif zoom, offer neu deithio. 
  • Grantiau Llawn (hyd at £5,000) – gall fod i’ch cefnogi i ddatblygu prosiect, talu costau staff craidd, neu ystyried menter gymdeithasol dan arweiniad y gymuned.
  • Grantiau Partneriaeth (hyd at £10,000) – i’ch cefnogi i weithio mewn partneriaeth gyda grwpiau Trawsnewid eraill i wireddu nod cyffredin. Gall fod ffocws rhanbarthol neu thematig i brosiectau.

Gellir dysgu mwy am ac ymgeisio ar gyfer y grantiau cyllid sbarduno yma.

Bu pobl leol yn rhannu syniadau mewn perthynas â newid a phrydau a gynhyrchwyd o fwyd dros ben
yng ngofod dychmygol dros dro Transition Kentish Town.

Beth ddigwyddodd y tro diwethaf?

Yn y rownd ddiwethaf, dosbarthwyd £140,000 i gefnogi gwaith 87 o grwpiau, oedd yn cyflawni 111 prosiect rhyngddyn nhw ar hyd a lled Lloegr. Un canlyniad oedd i nifer o’r prosiectau helpu grwpiau Trawsnewid  gynnwys mwy o wirfoddolwyr a magu egni o’r newydd. A dweud y gwir, roedd hanner y 1,477 gwirfoddolwr sy’n gysylltiedig â’r prosiectau, wedi cymryd rhan mewn mentrau Trawsnewid am y tro cyntaf. Rhyngddyn nhw, mae’r prosiectau hyn wedi cyrraedd y nifer anhygoel o 42,000 o bobl – gyda mwy na hanner y rhain yn cysylltu â Thrawsnewid am y tro cyntaf.

Roedd amrywiaeth y dulliau gwaith a syniadau wedi ein gwirioni, gyda phob un yn seiliedig yn eich gwybodaeth a’ch cysylltiadau lleol – a dyna allwedd eu llwyddiant. 

Dychmygu dyfodol gwell

Roedd llawer wedi defnyddio’r cyfle i gychwyn trafodaeth am sut y gall eu cymuned symud ymlaen yn sgil y pandemig, yn gryfach ac yn fwy gwydn, yn helpu pobl i weld posibiliadau dyfodol gwell er gwaethaf y cyfnod heriol presennol. Trwy lunio’r pecyn cymorth i greu gweledigaeth roedd y cyllid wedi caniatáu i grwpiau ddod o hyd i ffyrdd newydd a chreadigol i wneud hyn, ac i gynnwys cynulleidfaoedd newydd.

Yn Camden, agorodd Transition Kentish Town gofod i’r gymuned ddychmygu gwneud pethau, lle’r oedd pobl yn cael rhannu syniadau a phrydau a wnaethpwyd gyda bwyd dros ben. Yn Belper, ymddangosodd coed syniadau ar draws y dref, a chafodd nifer o syniadau ‘Beth petai?’ eu troi’n gynlluniau i greu newid. Llwyddodd Transition Buxton i ddod ag artist mewn i helpu cofnodi a chyfleu’r hyn a all ddigwydd.

Roedd Big Buxton Conversation wedi gwahodd syniadau ar gyfer dyfodol y dref, a gofnodwyd mewn ffordd liwgar iawn, gan artist lleol.

Hefyd bu grwpiau’n canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau gyda chynulleidfaoedd newydd a chynnwys lleisiau pobl ar yr ymylon neu rai heb gynrychiolaeth ddigonol mewn prosesau ymgynghori, megis cymuned Bangladeshaidd St Albans, neu’r gymuned Affro-caribîaidd yn Brixton. Cychwynnodd  Transition Southampton sgyrsiau ‘Beth petai?’ mewn tair cymdogaeth nas clywyd eu lleisiau’n aml gan bobl sy’n gwneud penderfyniadau, a chreu’r fideos hyfryd hyn.

Meithrin capasiti

Nid yw’n gorfod bod yn brosiect newydd sbon arloesol bob tro – weithiau gall swm bach o arian helpu grŵp i weithio’n well, neu roi cyfle iddyn nhw ystyried, sy’n gwneud byd o wahaniaeth rhwng grŵp neu fenter sy’n mynd i’r wal, a bod yno i ddatblygu eto.

Roedd hyn yn hynod bwysig yng nghyd-destun y pandmig, oedd yn golygu nifer o heriau i grwpiau, megis colli capasiti o ran y tîm craidd; colli incwm; neu newidiadau yr oedd angen eu gwneud i sicrhau fod y grŵp yn dal i weithredu yng nghyd-destun Covid – megis talu am danysgrifiad Zoom. Hwyrach nad yw hyn yn beth amlwg i’w ariannu. Ond mae meithrin gwydnwch sy’n greiddiol i’n grwpiau wedi eu galluogi i oroesi sioc, parhau â’r gwaith rhagorol, ac mae’n waith adeiladu  hanfodol o safbwynt ein mudiad.

Fel y nododd Transition Town Worthing: “Mae’r grant wedi achub ein bywyd! Yn llythrennol, ni fyddai wedi bod yn bosib inni barhau hebddo; byddai hynny’n drychinebus oherwydd mae cymaint o waith da’n digwydd yn ein cymuned … ac ni yw rhan o’r glud sy’n dal popeth ynghyd.” Maent wedi cael eu hatgyfodi, ac wedi cael aelodau newydd gwirfoddol i dîm y rhandiroedd, wedi ail-gychwyn caffi atgyweirio, ac yn helpu sefydlu marchnad gynaliadwy newydd yn y dref.

Ail-sefydlodd Transition Teesside, a defnyddiwyd microgrant i redeg gweithdai a meithrin cysylltiadau gydag ystod eang o bobl a grwpiau.

Mae’r cyllid hefyd wedi helpu nifer o grwpiau newydd i gychwyn neu ail-lansio yn sgil cyfnod o dawelwch. Un o’r rheiny oedd Transition Teesside, oedd yn awyddus i ymwreiddio cyfiawnder cymdeithasol a gwrth-hiliaeth o’r cychwyn cyntaf, felly defnyddiwyd y £500 i redeg cyfres o weithdai ar amrywiaeth a chynhwysiant, gan gyfuno amrediad eang o bobl a siaradwyr o wahanol adrannau’r gymuned i drafod materion megis tlodi bwyd a newid hinsawdd.

Economi lleol cynaliadwy

Boed yn golygu sefydlu ‘llyfrgell o bethau’ i annog benthyg, rhannu ac ail-ddefnyddio eitemau yn Exmouth; tyfu bwyd lleol, ffres ar gyfer banciau bwyd cymunedol Dorchester, neu sefydlu rhwydwaith o gerddi cymunedol newydd yn Wilmslow, defnyddiodd llawer o grwpiau cyllid sbarduno’r llynedd i gyfrannu at feithrin economi lleol mwy gwydn, cyfiawn a chynaliadwy.

Yn Guildford a Manceinion, roedd y cyllid wedi cefnogi mannau cymunedol newydd i bobl ddod ynghyd i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd; yn Belper roedd wedi helpu cael gorsaf bŵer solar newydd ar y gweill. Yn Bolton bu’n helpu rhedeg rhaglen o ddigwyddiadau a gweithdai i rannu gwybodaeth ac arfer orau ymhlith mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a chynhyrchwyr bach yn y Gogledd Orllewin, ac yn New Mills yn Swydd Derby daeth pobl at ei gilydd trwy fwyd i ystyried datblygu cynhyrchu bara lleol a thyfu gwenith mewn hen felin yn y dref.

Mynnwch ysbrydoliaeth – cymerwch ran

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu mwy o straeon gwych am effaith y grantiau hyn ar grwpiau Trawsnewid, i helpu creu eich syniadau eich hunain. Mae llwyth o gyngor ymarferol am wneud cais ar gael yma.

Ein gobaith yw y bydd y grantiau sbarduno hyn yn galluogi grwpiau i weithio yn eu cymunedau i ail-ddychmygu ac ail-adeiladu dyfodol mwy cyfiawn o safbwynt cymdeithasol, mwy gwydn a mwy cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol. Gyda’n gilydd, rydym yn cyflawni gwaith hanfodol i greu dewis amgen o ran yr hyn sy’n aflwyddiannus ar hyn o bryd, i helpu pobl lunio gweledigaeth gadarnhaol o’r dyfodol ar gyfer eu cymunedau, a’u gwahodd i gyfrannu at wireddu hyn.

Rydym yn disgwyl yn eiddgar i weld pa ffrwythau fydd yn tyfu o’r hadau fydd yn cael eu plannu eleni gennych. Felly, dyma’r amser i ddod â’ch grwpiau ynghyd a gofyn ‘Beth petai?’.  Cyfle i ystyried y potensial yn eich gwaith a’ch cymuned leol gydag ychydig mwy o adnoddau.  Bydd ceisiadau ar agor hyd at 31 Hydref 2022, er mwyn rhoi digon o amser i grwpiau freuddwydio a chynllunio .  Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn cynnig nifer o ddigwyddiadau i’ch cefnogi i wneud y cais gorau posibl:

  • Ar 21 Medi – bydd cyfle i glywed gan rai o’r grwpiau sydd wedi cyflawni gwaith rhagorol y tro diwethaf, mewn Gwledd o Straeon – o’r Cyllid Sbarduno
  • Ar 13 Hydref, gallwch ymuno â gweminar Cwestiynau Cyffredin i’ch helpu cadarnhau eich syniadau, ac i roi cymorth gyda’ch cais
  • Hefyd yn yr Hydref, byddwn yn rhedeg sesiynau gyda chydweithwyr ar y platfform Vive i ystyried themâu a phrosiectau potensial mewn mwy o fanylder.

Rydym yn disgwyl yn eiddgar i weld pa ffrwythau fydd yn tyfu o’r hadau fydd yn cael eu plannu eleni gennych. Felly, dyma’r amser i ddod â’ch grwpiau ynghyd a gofyn ‘Beth petai?’.  Cyfle i ystyried y potensial yn eich gwaith a’ch cymuned leol gydag ychydig mwy o adnoddau. 


      
Skip to content