Cyllid Sbarduno
Mae’r rhaglen cyllid sbarduno’n cynnig grantiau i helpu grwpiau Trawsnewid feithrin capasiti, cynyddu eu heffaith yn y gymuned leol a gwneud rhywbeth na fyddai’n bosibl fel arall efallai.
Mae’r grantiau ar gael i’ch galluogi i weithio gyda’ch cymuned i ail-ddychmygu ac ail-adeiladu dyfodol mwy cyfiawn o safbwynt cymdeithasol, tecach, mwy gwydn a chynaliadwy o safbwynt amgylcheddol.
Y rownd gyfredol yw’r fwyaf erioed; mae gennym £270,000 i’w ddosbarthu i gefnogi gwaith er newid dan arweiniad y gymuned. Noder: y rownd grantiau yma yw’r olaf o safbwynt cyllid pendant, ar hyn o bryd.
Rydym yn ddiolchgar i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y cyllid inni allu darparu’r grantiau hyn.
Meithrin dewisiadau amgen
Pa fath o brosiect fyddai’n cynnig posibiliadau yn eich ardal chi? Hwyrach y byddwch yn defnyddio’ch grant i lansio prosiect newydd megis canolfan argyfwng hinsawdd; i wella eich gardd gymunedol; i gicdanio trafodaeth leol ynghylch creu gweledigaeth neu ar gyfer digwyddiad anhygoel? Neu gall eich cynorthwyo i ddatblygu eich grŵp trwy gefnogi cydlynu neu gostau staff, eich helpu i feithrin cysylltiadau a rhwydweithiau, neu i weithio trwy gydgefnogaeth gyda chymunedau ymylol. Efallai eich bod yn awyddus i ystyried beth fyddai economi lleol cynaliadwy yn edrych, a gall grant helpu creu bywoliaethau newydd, cydweithfa neu gwmpasu menter gymdeithasol.
Rydym yn awyddus i glywed eich syniadau; felly hyd yn oed os nad ydynt mewn un o’r categorïau uchod, croeso ichi ymgeisio. Gallwch ddysgu rhagor am y pethau anhygoel sydd wedi digwydd diolch i rownd ddiwethaf y cyllid sbarduno yn yr erthygl isod
Gall fod i’ch cefnogi i ddatblygu prosiect, talu costau staff craidd neu feithrin partneriaethau a chynghreiriau.
Sut i wneud cais
Mae’r cyllid sbarduno yma ar gyfer grwpiau neu hybiau Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr sy’n gofrestredig gyda’r Rhwydwaith Trawsnewid. I gofrestru ar wefan y Rhwydwaith Trawsnewid, dilynwch y ddolen hon.
Ar gyfer grwpiau ar ddechrau eu taith, rydym yn cynnig gweithdy Lansio byr ar 18 Tachwedd ac 2 Rhagfyr – gellir dysgu rhagor ac ymuno yma. Ceir mwy o wybodaeth am gymhwysedd a’r meini prawf i fod yn grŵp trawsnewid fan hyn.
Rydym wedi ceisio gwneud y broses o ymgeisio ar gyfer y grantiau hyn mor syml a rhwydd â phosibl, trwy ddefnyddio ffurflenni ar-lein byr, fideos a rhaglenni darllen sgrin. Gall grwpiau wneud mwy nag un cais, a gwneud cais am fwy nag un math o grant.
Cofiwch ddarllen y canllawiau Popeth y mae angen ei wybod cyn ymgeisio a’n cwestiynau cyffredin yma.
Y dyddiad olaf i dderbyn ceisiadau yw 11.59pm ar 7 Ionawr 2024.
Seed Funding News
Chwilio am Blethwyr Rhwydwaith
30 Ebrill 2024
4 minute read
Sero –Canolfan Amgylcheddol Cymunedol newydd Caerfyrddin
14 Chwefror 2024
3 minute read
Sut y gall cyllid sbarduno feithrin gweithredu gan gymuned
8 Tachwedd 2023
9 minute read
Prif gwestiynau’r dyfodol sydd angen eich atebion chi
27 Chwefror 2023
5 minute read
Gofalu am sgwrs hollbwysig
23 Chwefror 2023
7 minute read
Blwyddyn o Drawsnewid gyda’n Gilydd
14 Chwefror 2023
10 minute read
Cyllid Sbarduno’n fyw: O hadau mân, mae grwpiau Trawsnewid yn creu cynhaeaf toreithiog
28 Gorffennaf 2022
9 minute read
Y cam nesaf ar gyfer Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr
27 Gorffennaf 2022
8 minute read
Tyfu Syniadau Gwych – Cyhoeddi Cyllid Newydd!
28 Hydref 2021
4 minute read