Sut y gall cyllid sbarduno feithrin gweithredu gan gymuned

Sut y gall cyllid sbarduno feithrin gweithredu gan gymuned
Chris McCartney
8 Tachwedd 2023
9 minute read

Rydym wedi aros yn eiddgar ar gyfer yr eiliad hon – lansio’r grantiau cyllid sbarduno diweddaraf i helpu grwpiau Trawsnewid ysgogi pethau gwych i ddigwydd yn eich cymunedau.

Diolch i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, byddwn yn dosbarthu cyfanswm o £270,000 i gefnogi gwaith er newid dan arweiniad eich cymuned chi, yn y rownd fwyaf hyd yma.

Wrth symud tuag at ddiwedd y cyfnod hwn o’n prosiect, a chynllunio ar gyfer y dyfodol, mae’n bwysig bod yn ymwybodol taw hon yw’r rownd olaf o grantiau sydd â chyllid pendant ar hyn o bryd

Ysgogi newid yn eich cymuned chi

Mae grwpiau Trawsnewid ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd y tro hwn, yn gymwys i gyflwyno cais.

Trwy gydol 2023, mae 70 o brosiectau a gefnogwyd trwy’r rownd grantiau ddiwethaf, wedi bod yn gwneud gwaith gwych: ym maes magu systemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth amgen; ysgogi atebion creadigol newydd a meithrin cysylltiadau yn y gymuned.  Wrth ichi ystyried gwneud cais, does dim gwell ysbrydoliaeth ar gael. 

Efallai y byddwch yn gweld potensial safle lleol – yn yr awyr agored, fel Grow Lewisham sydd wedi troi safle concrit a esgeuluswyd yn sgwâr newydd er mwyn i bobl leol gysylltu â’i gilydd  – neu dan do, megis Sustainable St Albans, sy’n gweithio gyda’r gymuned leol i ddylunio hwb yng nghanol y dref ar gyfer gweithredu cymunedol.  

Cwsmeriaid yn aros ar gyfer stondin farchnad Transition Wilmslow, sy’n tyfu bwyd lleol, ffres, organig.

Hwyrach, yn debyg i Transition Wilmslow, bod gennych weledigaeth ar gyfer system bwyd lleol llewyrchus. Maen nhw wedi rhedeg prosiect ‘Plot to Plate’ ar gyfer teuluoedd lleol, trwy gynaeafu a choginio bwyd o’u gerddi cymunedol, a rhedeg stondin ym marchnad fwyd unigryw’r dref er mwyn gwerthu eu cynnyrch am y tro cyntaf – roedd ciw o gwsmeriaid yn aros i brynu!

Wrth i brisiau ynni cynyddu, mae llawer o grwpiau wedi cymryd camau ymarferol i helpu pobl i ymateb. Roedd cynllun ‘Think & Do’ wedi rhoi ar waith clwb arbed ynni ar draws 5 o stadau tai Camden, a gweithio gyda 300 o gartrefi i dorri defnydd a biliau ynni. Yn eu barn nhw, roedd y profiad wedi “atgyfnerthu ein cred fod prosiect sy’n cael ei gyd-ddylunio a’i gyflenwi gan drigolion, cymaint yn well na dull o weithio o’r brig i lawr.” Cafwyd hyd i ateb arall ar lawr gwlad gan Transition Town Ilford: rhedeg caffi ynni bob pythefnos yn y llyfrgell leol, lle roeddynt yn gallu cyrraedd y gymuned gyfan trwy gynnig cyngor a gwybodaeth bwrpasol i bawb.

Cynhaliwyd sesiynau arbed ynni gan Transition Town Ilford yn y llyfrgell leol bob pythefnos

Os ydych chi’n breuddwydio am economi lleol atgynhyrchiol, llewyrchus, gallwch efallai gael eich ysbrydoli gan Owned by Oxford, sydd wedi adeiladu prosiect ôl-ffitio yn y gymuned ar ystâd Barton. Bydd yn tyfu swyddi, magu sgiliau ac yn ateb hirdymor, lleol i gartrefi oer sy’n gollwng, ac sydd hefyd yn meithrin cyfoeth yn y gymuned. Bu Bolton Diggers yn rhedeg cyfres o weithdai ar thema ‘Skills for an alternative economy” gyda chyfranogwyr amrywiol ar draws y fwrdeistref. Mae grwpiau Trawsnewid Crich, Crowborough, Kew a Buxton i gyd wedi datblygu cynlluniau rhannu ac atgyweirio yn eu cymunedau, gan leihau gwastraff a defnydd, tra bo Transition Bookham wedi bwrw ymlaen gyda chynlluniau i fod yn gymuned heb blastig.

Gall grwpiau Trawsnewid gael effaith tu hwnt i’w maint, graddfeydd ac adnoddau – ac rydych chi wedi ein synnu’n llwyr gyda’r hyn a gyflawnwyd gydag ychydig iawn o arian.

Mae’r Prosiect Community Roots Permaculture wedi derbyn grant o £500 ac ymgysylltwyd â dros 80 o deuluoedd ar eu hystâd, gan blannu coed a llwyni ffrwythau yn eu gerddi er mwyn cael mynediad at fwyd iachus, lleol, ffres am flynyddoedd i ddod.

Derbyniodd Transition Chipping Norton microgrant gwerth £500 i gychwyn sesiynau cwrdd ar gyfer pobl ifanc yn y parc. Maent wedi ymgysylltu â chynghorwyr y dref, ac ar y cyd â’r bobl ifanc maen nhw wedi llunio cynlluniau ar gyfer parc chwarae newydd, digwyddiadau a llwybrau newydd. Erbyn hyn mae’r ieuenctid yn credu bod ganddynt gyfle i gyfrannu at ddyfodol eu tref.

Pobl ifanc yn gweithio gyda Transition Chipping Norton i gynllunio parc newydd ar eu hystâd. 

Gwreiddiau dwfn a ffrwythau annisgwyl

Mae ymagwedd Trawsnewid yn caniatáu cyfeiriadau, cyfleoedd a chysylltiadau newydd i ddod i’r amlwg. Hwyrach bod prosiectau, sy’n ymddangos yn syml ac ymarferol ar yr wyneb, yn arwain at newidiadau sylweddol o ran ffyrdd o feddwl a chysylltiadau o dan yr wyneb. Oherwydd bod grwpiau Trawsnewid wedi’u hymwreiddio yn y gymuned; oherwydd eich bod yn gadael lle i wrando ar a dysgu gan lawer o bartneriaid a phobl, gall effaith eich gwaith lledu’n ddyfnach ac yn ehangach nag y byddech chi erioed wedi rhagweld.

Llwyddodd prosiect bwyd lleol Transition Woodbridge i gysylltu â 134 o gynhyrchwyr bwyd lleol, a chawsant eu cynnwys mewn taflen. Yn ôl Dan o’r tîm: “Y nod yw peidio â chyhoeddi taflen; ond yn hytrach i ehangu’r cysylltiadau gyda’r bobl a’r lleoliadau sy’n cynhyrchu ein bwyd.”

Darparwyd hyfforddiant ar gyfer gyrwyr cludiant cymunedol gan Transition Eynsham, mewn ymdrech i wella’r cysylltiadau yn eu hardal wledig nhw. Dywedodd un o’r trefnwyr sut mae’r cynllun wedi trawsnewid unigedd gwledig:  “cafwyd pum mlynedd a hanner o gyfnod clo, a bellach, mae gennym fywyd yn ôl eto.”

Mae Planet Cheltenham wedi datblygu eu grŵp ieuenctid, ac maent yn rhedeg gweithdy gobaith i helpu delio gyda phryder am yr hinsawdd.  Yn ôl un o’r cyfranogwyr: ‘Y grŵp hwn yw’r unig beth sy’n rhoi gobaith imi’.

Mae prosiect Living Soil Co-exist Bristol yn ymwneud â llawer mwy na chompost yn unig. Trwy sefydlu fel cydweithfa compost gyntaf y ddinas, maent yn cynnwys pobl mewn gwaith adfywio pridd, systemau bwyd ac ail-gysylltu’r gymuned – a’u gweledigaeth yw cael prosiectau tebyg ar draws Bryste.  Dywedwyd:  “Heb y cyllid yma, ni fyddai wedi bod yn bosibl cael y blychau compost, ac felly meithrin ffydd i sicrhau cytundeb lle.  Mae’r cyllid wedi trawsnewid pethau’n wirioneddol.”

Beth sy’n gallu cael ei ariannu

Unwaith eto, mae tri math o grant ar gael. Micrograntiau o £100-£500 sydd â phroses ymgeisio cyflym a syml, ond maent yn gallu cael effaith fawr ar gyfer eich grŵp a’ch cymdogaeth.

Gall grantiau llawn, o hyd at £5,000 eich helpu i roi cynnig ar rywbeth newydd, neu gymryd y cam nesaf tuag at wireddu eich gweledigaeth a newid dan arweiniad eich cymuned.  Rhannwch gyda ni sut bydd eich cynlluniau’n annog cydweithredu, sut byddant yn hygyrch ac yn cyfrannu at feithrin trawsnewid cyfiawn yn eich cymuned leol chi.

Mae grantiau Partneriaeth ar gyfer hyd at £10,000 yn caniatáu i ddau grŵp Trawsnewid neu fwy cydweithio ar thema neu leoliad cyffredin, gan greu mwy o effaith a chyflawni mwy nag y byddai un grŵp wrth ei hun yn gallu ei wireddu.

Deilliodd sefydliad newydd, Friends of the River Exe, o grant partneriaeth a ddyfarnwyd i Sustainable Tiverton, Transition Exeter a Transition Exmouth yn ystod y rownd ddiwethaf. Trwy gydweithio, llwyddwyd i “greu prosiect hollol anhygoel, ac mae pawb yn siarad amdano, i harneisio dicter pobl mewn perthynas â llygredd yn ein hafonydd er mwyn rhoi llais i natur, gan chwalu’r sŵn biwrocrataidd gan gwmnïau dŵr ac asiantaethau’r llywodraeth”

Mae’r cyllid yn hyblyg, a gall ystod o gostau amrywiol fod yn gymwys: o ddigwyddiadau a chostau offer i ddatblygu seilwaith, cynhyrchu deunyddiau neu wefannau, i ddarparu hyfforddiant, o rent neu filiau i fagu gapasiti staff neu weithwyr llawrydd. Yr hyn sy’n bwysig yw eich gweledigaeth chi o ran sut gall y cyllid yma helpu ysgogi newid yn eich cymuned.

Cynnal y gwaith newid

Gwyddom nad yw trefnu ar lefel gymunedol bob tro’n golygu prosiect newydd sbon; weithiau, yr allwedd i gynnal effaith go iawn yw cryfhau eich craidd, tyfu capasiti ac ehangu dealltwriaeth o’r hyn rydych chi’n ei wneud eisoes.

Ar ôl ychydig o flynyddoedd heriol o safbwynt gweithredu cymunedol, mae grantiau wedi helpu deffro nifer o grwpiau, megis Worcester a Walthamstow.  Cynhaliodd Sustainable Tring ddau gyfarfod o Gynulliad y Dinasyddion er mwyn dod â grwpiau gwahanol y dref at ei gilydd: “Trwy hyn, mae’r ymgysylltiad wedi cynyddu’n aruthrol, newidiwyd ein henw, ac mae grwpiau gweithredu wedi cychwyn/ailgychwyn, ac wedi ymgorffori gweithgareddau eraill.

Aeth Transition Chesterfield ati i chwilio am sgyrsiau a chysylltiadau newydd, gan gynnwys trefnu arddangosfa ar gyfer Chesterfield Pride.

Mae cyllid sbarduno wedi helpu grwpiau Trawsnewid i arallgyfeirio ac ymestyn tu hwnt i’w rhwydweithiau presennol. Yn dilyn arolwg o’r gymuned, trosglwyddodd Usk Together for the Climate arweinyddiaeth eu prif ddigwyddiad dros yr haf i bobl ifanc leol. Defnyddiodd Transition Chesterfield eu microgrant i estyn allan i gynulleidfaoedd newydd, gan gynnwys cael stondin yng ngŵyl Chesterfield Pride yn ystod yr haf eleni. Llwyddodd grwpiau Trawsnewid yn Wellington a Lerpwl i ailwampio gwefannau a chreu deunyddiau cyhoeddusrwydd neu ddigwyddiadau i godi eu proffil a gwahodd pobl newydd i ymuno â nhw.

Mae Library of Things newydd Transition Buxton wedi cynnwys gwirfoddolwyr iau yn eu gwaith, ac maent bellach yn cydweithio ar brosiectau lleol sy’n darparu cymorth ar gyfer pobl sy’n ddi-waith ar sail hirdymor, a sefydlu gofod ar gyfer gweithdy cymunedol.

Caffi Atgyweirio Caerfyrddin oedd un o 15 prosiect cymunedol a ddaeth at ei gilydd, ac a oedd yn rhan o lansiad hynod brysur y grŵp Trawsnewid newydd, Caerfyrddin Gyda’i Gilydd.

Hwyrach taw dyma’r adeg i droi diddordeb mewn Trawsnewid yn eich cymuned chi, yn gweithredu. Ym mis Mawrth defnyddiodd, ’Caerfyrddin Gydai Gilydd  grant cyllid sbarduno i lansio eu grŵp Trawsnewid newydd, gyda chynhadledd hinsawdd i blant, gwefan ddwyieithog, a noson i ddathlu, oedd yn cyfuno 15 prosiect cymunedol. Erbyn hyn, mae ganddynt gysylltiadau gyda’u cynghorau lleol a sirol, ac maent yn ystyried hwb corfforol, o ganlyniad i gyswllt a gafwyd yn y digwyddiad lansio: “Byddai wedi cymryd llawer mwy o amser inni ddenu’r sylw yma, os nad oedden ni wedi llwyddo i greu cymaint o fwrlwm,” meddai gohebydd.

Adeiladu seilwaith, creu cysylltiadau, a phobl, a chydweithio tuag at y math o fyd y byddem yn hoffi byw ynddo – dyna sydd tu ôl i hyn oll. Gall grant cyllid sbarduno eich caniatáu chi i gymryd y cam nesaf, ac agor posibiliadau newydd, annisgwyl er mwyn creu newid – i ba gyfeiriad ewch chi?

Skip to content