Tyfu Syniadau Gwych – Cyhoeddi Cyllid Newydd!

Tyfu Syniadau Gwych – Cyhoeddi Cyllid Newydd!
Rhiannon
28 Hydref 2021
4 minute read

Diolch i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, mae’r Rhwydwaith Trawsnewid wedi derbyn grant gwerth £5,977,444 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Tyfu Syniadau Gwych  ar gyfer gwaith ym Mhrydain dros y deng mlynedd nesaf.

Diben Tyfu Syniadau Gwych yw cefnogi newid trawsnewidiol ar draws y DU, sy’n cyfateb i faint yr heriau a’r cymhlethdodau sy’n ein hwynebu.  Trwy ddarparu buddsoddiad hirdymor i grwpiau a rhwydweithio sy’n gwneud gwaith arloesol mewn ffyrdd newydd, fydd yn mynd ymhell tu hwnt i drwsio neu addasu’r systemau cyfredol, ei nod yw trawsnewid systemau ein bywyd yn y bôn.

Braint yw cael ein cydnabod fel rhwydwaith arloesol, ac rydym yn croesawu’r cyfle i adeiladu ar waith anhygoel grwpiau Trawsnewid ym Mhrydain a wnaethpwyd dros y 15 mlynedd diwethaf – wrth feithrin gwydnwch, cynaliadwyedd a chydraddoldeb cymdeithasol yn eu cymunedau. Gyda’r cyllid hirdymor yma, byddwn yn datblygu seilwaith a chapasiti ein grwpiau – a’u cefnogi i lansio mentrau newydd, i feithrin partneriaethau amrywiol, datblygu sgiliau a rhannu arfer orau, a’n galluogi i gyfoethogi, ymestyn ac ehangu effaith ein rhwydwaith.

Gwnawn hyn drwy ganolbwyntio ar 4 maes craidd:

Meithrin y Rhwydwaith a Chapasiti
Byddwn yn defnyddio strategaethau arweinyddiaeth rhwydweithiau cymunedol i greu’r amodau i greu cysylltiadau rhwng cymheiriaid, cymorth a dysg. Trwy ddefnyddio cyfuniad o arfau ar-lein, hyfforddiant a digwyddiadau byddwn yn cefnogi pobl a grwpiau ym Mhrydain i ddatblygu a chyfoethogi eu sgiliau a magu cysylltiadau newydd ar draws y wlad. Rydym am greu capasiti cymunedau lleol er mwyn iddynt arwain ac ymgysylltu ag arferion rhagolwg a dychymyg yn ogystal â datblygu gwell dealltwriaeth o weithio gyda phŵer cymhleth a deinameg hiliol.

Cyllid SbardunoBob blwyddyn, byddwn yn dosbarthu adnoddau i grwpiau Trawsnewid a’u partneriaid yng Nghymru a Lloegr i alluogi gweithgareddau ar lawr gwlad sy’n cael effaith yn y gymuned ac sy’n meithrin capasiti ac uchelgais grwpiau. Byddwn yn gwireddu hyn drwy gyllid sbarduno ar ffurf micro-grantiau ar gyfer grwpiau lleol er mwyn rhedeg arbrofion hynod leol. Trwy wneud hyn, bydd yn caniatáu mwy o gymunedau i arloesi ac arbrofi gydag atebion sy’n cael eu harwain gan ac sy’n eiddo i’r gymuned leol, o ran problemau cymdeithasol parhaus.

Datblygu HwbByddwn yn cefnogi datblygu arweinyddiaeth ddosbarthol ar lawr gwlad ar draws grwpiau Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr – gan greu’r seilwaith i ddatganoli’r mudiad mewn ffordd a wireddwyd eisoes yn yr Alban a rhannau eraill o’r byd. Bydd y llinyn hwn yn cefnogi’r newid i fodel arweinyddiaeth sy’n gweddu i gyfeiriad hirdymor y Rhwydwaith Trawsnewid tuag at ddosbarthu pŵer, adnoddau a chyfrifoldebau i Hybiau a chylchoedd Trawsnewid.

Symud MudiadauHefyd byddwn yn canolbwyntio ar gefnogi datblygu rhwydweithiau, cysylltiadau a phartneriaethau rhwng pobl a sefydliadau gwahanol o bob math, sy’n gweithio i feithrin pŵer a gwydnwch yn y gymuned ar draws Prydain. Byddwn yn cyfrannu at greu ecoleg o fudiadau dan arweiniad y gymuned trwy ddatblygu cynghrair CTRLshift a chefnogi Hwb Trawsnewid yr Alban a Rhwydwaith Cymunedau’r Alban sy’n Gweithredu ar yr Hinsawdd, gan alluogi gwireddu mwy o gydweithio a photensial.

Bydd y cyllid yn caniatáu inni adeiladu ar y gwaith gwych a wnaethpwyd eleni gan dîm Bounce Forward Transition fydd yn arwain y gwaith yma ac yn lansio eu henw a’u gwefan newydd ym mis Medi.

Rydym yn gyffrous iawn i allu rhannu’r newyddion yma gyda chi heddiw ac am weithio gydag ecosystem anhygoel o grwpiau Trawsnewid a sefydliadau partner wrth inni feithrin cymunedau mwy gwydn, cynaliadwy a chyfiawn o safbwynt cymdeithasol dros y 10 mlynedd nesaf.

Gallwch ddarllen mwy am ein gweledigaeth yn y blog yma a gyhoeddwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a chofiwch gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn peidio colli’r diweddariadau cyffrous a datblygiadau’r prosiect wrth iddynt ddigwydd.

Diolch yn fawr i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth i dyfu syniadau gwych.

Skip to content