Prif gwestiynau’r dyfodol sydd angen eich atebion chi
27 Chwefror 2023
5 minute read
Beth sydd ei angen arnoch gan y mudiad Trawsnewid i’ch helpu teimlo eich bod yn perthyn? Sut gall Hyb helpu eich grŵp i ffynnu? Beth fyddai’n ei wneud yn hygyrch ichi? Mae Amy Sciafe yn rhannu darganfyddiadau’r grŵp Gofalwyr, sy’n helpu datblygu strwythur mwy cynrychioladol er mwyn cefnogi’r mudiad Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n estyn gwahoddiad ichi gyfrannu at y broses.
Rydym bellach ychydig dros hanner ffordd trwy ein proses fel pump ‘gofalwr’, yn ceisio llunio siâp yr hyb arfaethedig ar gyfer Cymru a Lloegr.
Fel rhan o’n hymchwil, rydym wedi cyfweld â chynrychiolwyr Hybiau Trawsnewid rhyngwladol o bedwar ban byd, ynghyd â llawer o hybiau rhanbarthol yn y DU. Mae’r holl sgyrsiau wedi bod yn amrywiol iawn, ac mor gyfoethog, ac mae pob un ohonynt wedi ennyn posibiliadau anhygoel ar gyfer ein prosiect.
Ar draws pob un sgwrs, clywsom sut mae dweud straeon yn cymell y mudiad trwy ysbrydoliaeth a rhannu gwybodaeth, ac yn aml mae hybiau rhyngwladol yn cryfhau rhwydweithiau rhanbarthol trwy hyfforddiant a digwyddiadau, neu wrth gynnig hanfodion o ran cymorth megis canllawiau llywodraethu, yswiriant a delio gydag anghydfod.
Yn ein trafodaethau rhyngwladol, daeth themâu penodol i’r amlwg dro ar ôl tro, ynghyd â safbwyntiau a phrofiadau oedd yn unigryw i ddiwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y gwledydd dan sylw. Yn Japan y neges oedd magu teulu. Daeth mudiad Trawsnewid Brasil’ yn fan diogel i ddychmygu’r hyn y byddai cydweithio fel cymuned yn ei olygu yn sgil peryglon cyfnod unbennaeth. Yn yr Alban trafodwyd sut y gall adnoddau ychwanegol datgloi capasiti ac ymgysylltiad ar draws y mudiad cyfan. Ym Mecsico roedd y pwyslais ar strwythur a llywodraethu. Dro ar ôl tro, cafwyd cyfeiriadau at ofal, a phwysigrwydd meithrin gofal ymhlith aelodau’r hyb, sut gall y gofal (gydag amser ar gyfer creadigrwydd a hwyl) feithrin ymddiriedaeth hollbwysig a sut mae wedi ysgogi’r gwaith i adeiladu’r mudiad Trawsnewid ehangach ym Mrasil, sydd yn achos y wlad honno, heb unrhyw gyllid i’w gefnogi.
Rydym wedi siarad gyda chynrychiolwyr yr hybiau rhanbarthol amrywiol. Ar eu gorau, mae’r hybiau hyn yn cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i aelodau, gan ddatblygu’r capasiti i weithio’n effeithiol, ar lefel leol ac yn ehangach. O’r hybiau y cyfwelwyd â nhw, roedd y sawl sy’n ffynnu go iawn wedi dod o hyd i gyllid rheolaidd i gefnogi eu gwaith. Trwy ein trafodaethau codwyd nifer o broblemau ynghylch capasiti, uchelgais a chwythu plwc – a’r tensiynau rhwng ymdrechion gwirfoddolwyr, a gwaith sydd ag adnoddau a chymorth.
Cwestiwn arall a godwyd oedd, a fyddai haen cymorth arall ar lefel genedlaethol tu hwnt i weithgareddau ymgysylltiad ar lefel ‘trefi trawsnewid’ – a hefyd allan o gysylltiad â’r dulliau gwaith sy’n gysylltiedig â’r argyfwng hinsawdd sy’n awgrymu’r angen ar gyfer gweithio hynodleol (e.e. Addasiad Dwfn / Trawsffurfiol). Ymddengys fod hyn yn gyfle i bawb wisgo hetiau meddwl creadigol, i gyd-ddylunio hyb sydd â’i wreiddiau yn ein hanghenion ni ar lefelau rhanbarthol a lleol.
Ar draws yr holl sgyrsiau hyd yn hyn, rydym wedi dysgu (yn fras iawn) fod hyb da yn ymateb i anghenion grwpiau trawsnewid lleol o fewn rhanbarth a all fod yn wlad neu’n sir, gan helpu creu’r amodau i ffynnu ymhellach. Nid oes model un maint sy’n siwtio pawb, felly hoffem wahodd Trawsnewidwyr yng Nghymru a Lloegr i gyfrannu at y drafodaeth. Byddem yn hoffi rhannu gyda chi’r hyn a ddysgwyd hyd yn hyn, a chlywed eich barn chi hefyd.
Mae gennym 3 chwestiwn fyddai’n ein helpu i ddeall eich anghenion chi o ran Hyb ar gyfer Cymru a Lloegr:
- Beth sydd ei angen arnoch chi gan y mudiad Trawsnewid I deimlo eich bod chi’n perthyn?
- Sut gall Hyb Trawsnewid helpu eich grŵp chi i ffynnu?
- Beth fyddai’n gwneud Hyb Trawsnewid i Gymru a Lloegr yn hygyrch i’ch grŵp chi?
Hefyd byddwn yn ystyried y cwestiynau uchod mewn dwy weminar, ar ddydd Sadwrn 18 Mawrth (10.30am-12.30am) a dydd Mawrth 21 Mawrth (7-9pm).
Bydd y ddau sesiwn union yr un peth, ac maent ar gael ar adegau gwahanol i sicrhau fod yr un cyfle ar gael i Drawsnewidwyr o safbwynt argaeledd i bawb.
Hefyd rydym yn ystyried effaith rhwystrau strwythurol o ran ymgysylltiad a chyfranogiad i’r broses o ddylunio’r hyb a’r mudiad yn fwy cyffredinol. Ein bwriad yw rhannu mwy am y gwaith yma dros y misoedd nesaf. Mae’r broses o ystyried hybiau a chynrychiolaeth y mudiad trawsnewid mewn rhanbarthau gwahanol wedi ysgogi llawer o gwestiynau mawr, rhai ohonynt yn eithaf sylfaenol i’r ffordd y mae’r mudiad Trawsnewid yn gweithredu.
Byddai’n wych clywed eich ymatebion i’r cwestiynau hyn. Eich lleisiau a’ch anghenion chi ddylai fod yn sail i sut y caiff Hyb ar gyfer Cymru a Lloegr ei sefydlu yn y dyfodol. Gallwch glicio ar y ddolen i’r holiadur neu ymunwch ag un o’r weminarau
Gadewch inni ddychmygu … mae hwn yn gyfle llawn potensial. Yng nghyd-destun y gwaith sy’n ymwneud â chreu’r amodau ar gyfer newid trawsffurfiol – ac yn y byd delfrydol “more beautiful world our hearts know is possible” (Charles Eisenstein). Byddem yn croesawu eich cyfraniad a’ch gallu creadigol wrth inni gydweithio i olrhain posibiliadau newydd, i gryfhau ein mudiad, i ehangu ein cysylltiadau gyda’n gilydd, ac i ddatblygu’r stori barhaus, gyfiawn a gwydn gyda’n gilydd.