Blwyddyn o Drawsnewid gyda’n Gilydd

Blwyddyn o Drawsnewid gyda’n Gilydd
Chris McCartney
14 Chwefror 2023
10 minute read

Lansiwyd Trawsnewid gyda’n Gilydd ychydig dros flwyddyn yn ôl, ac mae’n amser da i fyfyrio ar ein rôl, yr hyn a wnaethpwyd, yr hyn a ddysgwyd, ac ar beth y byddwn yn canolbwyntio yn ystod 2023.

Beth petai… gan gymunedau bob man y grym, yr wybodaeth a’r cyfle i arwain newid, gan greu gwell byd i bawb o’r gwaelod i fyny? Dyna weledigaeth Trawsnewid gyda’n Gilydd, prosiect i dyfu a chryfhau’r gwaith yma ar gyfer gweithredu dan arweiniad y gymuned yng Nghymru a Lloegr.

Rydym yn rhan o fudiad Trawsnewid rhyngwladol, a gychwynnodd yn y DU yn 2005. Bellach mae gan y Rhwydwaith Trawsnewid gysylltiadau gyda chymunedau mewn 50 o wledydd ac yn cymryd camau ymarferol  o ‘drawsnewid’ i ffwrdd o’r ffyrdd o fyw anghynaladwy ac ymrannol i gymunedau gwydn, egnïol a gofalgar.

Cychwynnodd eich taith ddiweddar yn 2020, wrth inni ystyried sut y gall y 300 o grwpiau Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr, a chymdeithas yn gyfffredinol ‘Bounce Forward’, yn hytrach nag yn ôl o’r pandemig. Mae Trawsnewid gyda’n Gilydd yn adeiladu ar y cyfnod cychwynnol hwnnw, a gweithio er gwell dyfodol, diolch i gyllid hael gan Gronfa Gymunedol Tyfu Syniadau Gwych y Loteri Genedlaethol. Hefyd yn y bartneriaeth hon mae Hyb Trawsnewid yr Alban, Rhwydwaith Gweithredu ar Hinsawdd Cymunedau’r Alban.  Tra bo Trawsnewid gyda’n Gilydd yn brosiect newydd mae SCCAN wedi bod yn cefnogi newid dan arweiniad y gymuned ar draws yr Alban ers nifer o flynyddoedd.

Mae sicrwydd y cyllid yma’n golygu cyfle enfawr i grwpiau Trawsnewid a’r mudiad cyfan i weithio tuag at newid trawsffurfiadol, hirdymor – ac ni fu amser pwysicach erioed i gronni creadigrwydd, egni. gofal a grym cymunedau i ailwampio’r byd er gwell ac i bawb.

Wrth inni fyfyrio ar flwyddyn gyntaf Trawsnewid gyda’n Gilydd, mae’n bwysig i’r tîm  staff bach rannu’r hyn a wnaethpwyd gyda’r teulu ehangach, yn ogystal â’r hyn a ddysgwyd a’r hyn a achosodd trafferth inni, a sut y byddwn yn ceisio symud i’r dyfodol.

Yr hyn a wnaethpwyd? 

Yn ddigon naturiol, treuliwyd rhan o waith ein blwyddyn gyntaf yn sefydlu’r  prosiect, yn sicrhau bod y sgiliau a’r bobl iawn gennym, cynllunio a gweithio allan, trwy drafodaethau, gyda Trawsnewidwyr, y ffordd orau i dyfu a chefnogi’r mudiad. Ychydig iawn o ganeuon neu chwedlau sy’n cael eu cyfansoddi am sefydlu systemau gweinyddol newydd ac adeiladu gwefan, ond mae’n gorfod digwydd.

Mae tîm Trawsnewid gyda’n Gilydd yn angerddol am wasanaethu’r mudiad. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gweithio rhan amser, sy’n golygu y gallwn gyfrannu at brosiectau yn ein cymunedau lleol ni, ond sy’n golygu ein bod yn  brin o amser a chapasiti. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, rydym wedi tyfu i gael yr hyn sy’n cyfateb i bedwar aelod o staff llawn amser ar draws y prosiect. Ymdrechwn i ddefnyddio ein hamser mewn ffordd gall, i gydweithio o fewn a thu hwnt i’r mudiad, i ymateb i Drawsnewidwyr ac i flaenoriaethu mewn mannau lle cawn yr effaith fwyaf.  Gweler isod yr wyth maes gwaith lle gwnaethpwyd cynnydd yn y flwyddyn gyntaf:

  • Gosod sylfeini ein gwaith yn anghenion a heriau grwpiau Trawsnewid; cynhaliwyd cyfweliadau gyda 17 grŵp fel rhan o’r archwiliad parhaus. Peth braf fyddai gweld hyn yn ddeialog parhaus ac i glywed beth mae Trawsnewid yn ei olygu ichi yn eich ardal chi. Cysylltwch  os hoffech gyfrannu yn 2023. 
  • Ym mis Mai, cynlaiwyd uwchgynhadledd ar-lein ’Gallwn Gyda’n Gilydd, gyda 30+ o sesiynau i feithrin, magu ac ysbrydoli eich gwaith ym maes newid dan arweiniad y gymuned. Cynigiwyd sesiynau ymarferol i gefnogi gwaith grwpiau Trawsnewid, yn ogystal â heriau arwyddocaol ar arweiniad ieuenctid, trawma, mudiadau cynhwysol a mwy.
Gallwn Gyda'n Gilydd Copa 11-21 Mai. Together We Can
  • Un o’n nodau oedd meithrin gwe-gymorth ymhlith Trawsnewidwyr, Ii gysylltu grwpiau ac unigolion er mwyn rhannu a manteisio ar addysg ymysg cyd-aelodau. Yn Ebrill, lansiwyd Vive gofod ar-lein i gysylltu’n uniongyrchol gydag eraill yn eich rhanbarth, neu sy’n gysylltiedig â phrosiectau tebyg ym maes bwyd, ynni, trafnidiaeth a mwy. Erbyn hyn mae 470 o unigolion ledled y DU wedi cofrestru.
  • Cefnogwyd nifer o grwpiau oedd yn wynebu heriau penodol, yn amrywio o gyhoeddusrwydd trafferthus i arallgyfeirio cyllid, recriwtio gwirfoddolwyr newydd, i ddelio gyda gwrthdaro yn y grŵp. Gall gweithio ym maes newid dan arweiniad y gymuned fod yn heriol ar adegau, ac rydym wedi datblygu digwyddiadau, adnoddau a chyllid i helpu yn hyn o beth. Hefyd gallwch gysylltu â ni, os na fedrwch chi ddod o hyd i atebion, yma.
  • Lansiwyd rhaglen cyllid sbarduno, i ddosbarthu £160,000 i grwpiau Trawsnewid er mwyn sbarduno prosiectau newydd, meithrin capasiti, a chael effaith yn eu cymunedau. Talwyd y grantiau ychydig cyn y Nadolig, er mwyn i’r gwaith ddigwydd yn 2023. Mae pawb yn gyffrous iawn am y gweithgareddau trawsffurfiadol hyn, ac yn methu aros i adrodd yr hanesion – gwyliwch allan am fwy o fanylion.
  • I sicrhau fod ein mudiad yn wydn ar gyfer y dyfodol, mae angen strwythur democrataidd i lywio ein gwaith, ac a fydd yn parhau’n hirach na’r cyllid a’r prosiect ei hun, sydd â chyfyngiadau amser. Cychwynnwyd ar daith i ystyried beth fyddai Hyb Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr yn ei olygu, a sut y gall cynrychioli a chefnogi’r mudiad yn y dyfodol. Er mwyn cyd-greu’r daith hon, sefydlwyd grŵp gofalwyr  oedd yn cynnwys unigolion o’r mudiad a thu hwnt, oedd yn cynnig profiadau bywyd a sgiliau gwahanol i’r cyfanwaith. Mae’r grŵp yn paratoi i wahodd Trawsnewidwyr unigol a grwpiau lleol i fod yn rhan o’r deialog pwysig hwn yng Ngwanwyn 2023.
  • Llwyddwyd i feithrin perthnasau a chysylltiadau gyda rhwydweithiau eraill sy’n gweithio er newid radical.  Rydym yn animeiddio’r rhwydwaith CTRLShift; ei nod yw creu mannau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol lle gall mudiadau sy’n adeiladu opsiynau amgen ymarferol a radical ar lawr gwlad gydweithio, rwydweithio ac adeiladu partneriaethau gyda’i gilydd.  Yn 2022, sefydlodd aelodau CTRLshift tri phrosiect prototeip  yn Hull, Wandsworth a Bryste, I ystyried ffyrdd newydd o gydweithio ar faterion lleol, gan  ddefnyddio lleisiau lluosog a datgloi cyllid a dulliau gwaith newydd. Rydym yn parhau i weithio’n agos ac i ddysgu oddi wrth Scottish Communities Climate Action Network sy’n rhoi ar waith rhaglenni arloesol megis cyfarfodydd lleol ar thema Hinsawdd dros Newid, hybiau rhanbarthol ym maes gweithredu hinsawdd a chymundod dweud straeon. 

Yr hyn a ddysgwyd

Yn naturiol, rydym wedi dysgu llawer o bethau ar ein taith, ac mae rhai meysydd lle mae angen gwneud mwy o waith. Gweler isod rhai o’r myfyrion a’r amcanion sydd gennym at y dyfodol:  

  • Mae dweud straeon yn bwysig – mae angen inni hyrwyddo straeon bach a mawr newid dan arweiniad y gymuned oherwydd maent yn ysbrydoli, yn herio ac yn rhoi arweiniad ymarferol i grwpiau eraill sy’n chwilio am atebion. Wrth roi cyfle i Zero Guildford  rannu eu stori ynghylch sefydlu’r hyb hinsawdd cymunedol, rhannwyd hyn 50 o weithiau, ac arweiniodd ar grwpiau Trawsnewid eraill yn ystyried mannau tebyg yn eu cymunedau nhw.
  • Rydym wedi cynyddu’r cyfleoedd i ddweud eich straeon, ac yn derbyn llawer mwy o esiamplau gennych chi ac sy’n golygu fod ein gwefan, cylchlythyr, youtube, Facebook a Twitter yn wledd o straeon diddorol, sy’n cynnwys cyfuno gweithredu ar themâu megis ynni  a bwyd. Rydym yn awyddus i gynnig straeon, lleisiau a chyd-destunau amrywiol – a byddai’n hyfryd clywed eich hanes chi. Hefyd byddwn yn ystyried ffyrdd newydd y gall ein platfform ar-lein Vive fod yn lle ichi rannu eich profiadau a’ch heriau, a chefnogi Trawsnewid yn 2023.
  • Mae bod ar-lein yn wych, ond mae llawer o bobl yn awyddus i fwynhau profiad adfywiol o gysylltu wyneb yn wyneb.  Felly byddwn yn trefnu cyfarfodydd rhanbarthol  mewn nifer fach o leoliadau yn 2023. Bydd y gweithgareddau ar-lein yn parhau hefyd – gwyddom y gall fod yn fwy hygyrch a hyblyg ac mae’n rhoi cyfleoedd i gysylltu ar draws y wlad. Gwyddom ein hunain bod amser yn brin i fynd i weithdai a digwyddiadau, er gwaethaf pa mor ddiddorol neu ddefnyddiol maen nhw. Wrth feddwl am hynny, mae Rhiannon wedi treulio amser yn dylunio  rhaglenni hyfforddi  sy’n targedu anghenion grwpiau Trawsnewid yn benodol. Byddant yn rhedeg o Ionawr – Mawrth.  Hefyd byddwn yn cynnig sesiwn penodol ar weithio gyda chynghorau yng Ngwanwyn 2023, diolch i’r cyfle i gydweithio gyda ECOLISE

  • Ni fedrwn feithrin cymunedau gwydn, adfywiol oni bai ei bod yn bosibl inni fynd i’r afael â’r anghyfiawnder a’r anghyfartaledd sy’n rhan o’n systemau a’n cymdeithas presennol. Mae cysylltiad agos iawn rhwng yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol.  Mae ein tîm yn dod â phrofiadau bywyd amrywiol, ond deallwn yr angen i ehangu a dyfnhau ein dulliau gwaith a gwybodaeth ymhellach er mwyn gwir ymgysylltu â’r problemau hyn mewn ffordd arwyddocaol. Rydym wedi ceisio cynnwys ystod eang o leisiau a safbwyntiau yn ein digwyddiadau, a’n prosesau ar gyfer cyllid sbarduno, gan gynnwys cynnwys pobl wrth eu dylunio a’u cyflenwi. Yn 2023, rydym yn awyddus i ehangu’r elfen hon o’n gwaith i ystyried sut a pham mae’n bwysig ymgorffori cyfiawnder cymdeithasol yn y gwaith o ennyn newid dan arweiniad y gymuned, yn ogystal â chefnogaeth i Drawsnewidwyr ofyn cwestiynau heriol ynghylch sut y gallwn wneud hyn mewn ffordd arwyddocaol.
  • Mae angen brys ar gyfer y gwaith yma, ond ni ellir ei ruthro. Mae ein ffordd o weithio mor bwysig â’r hyn a wnawn. Mae cysylltiadau’n bwysig. Mae chwythu plwc yn real. Rydym wedi dechrau ar y gwaith o ystyried yr her o adeiladu bywoliaethau cynaliadwy o gwmpas newid dan arweiniad y gymuned, yn yr Uwchgynhadledd ac yn y broses ar gyfer cyllid sbarduno, er mae angen mwy o sylw ar gyfer y cwestiwn hwn er mwyn meithrin gwydnwch ar lawr gwlad o fewn ein mudiad. 
  • Mae tyfu rhwydweithiau myseliwm cydgysylltiedig a chreu effaith yn golygu mwy na’r hyn y gellir ei gyfrif. Gyda chymorth y gwerthuswr Tim Strasser, rydym wedi datblygu fframwaith i’n helpu deall ein heffaith arfaethedig a’r broses o newid a ysgogir. Mae’r arf 3D yn ystyried sut mae ein gweithgareddau’n ehangu (yn cyrraedd mwy o bobl a chymunedau a phobl a chymunedau mwy amrywiol), ymestyn (sef cynyddu hirhoedledd a gwydnwch grwpiau a phrosiectau Trawsnewid) a dwysáu ein dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen i greu newid sylfaenol mewn systemau a diwylliant dominyddol.
  • Mae newid yn gymhleth, ac mae gweithio i feithrin systemau newydd, o fewn y systemau presennol sydd gennym, yn heriol.  Rydym yn gweithio gyda Sefydliad Schumacher ar gyfarwyddyd meddylfryd systemau ar lefel gymunedol, i helpu grwpiau Trawsnewid ac eraill i lywio’r llwybrau tuag at newid trawsffurfiadol.

Mae angen profiad y mudiad Trawsnewid o greu newid, dan arweiniad cymunedau, nawr mwy nag erioed. Mae’n cael mwy o effaith ac yn fwy cynaliadwy na gweithredu ar eich pen eich hun; mae’n dangos beth sy’n bosibl i bobl sy’n gwneud penderfyniadau a chymunedau eraill, ac yn golygu ein bod yn weithredol o ran ail-ddychmygu ac ail-adeiladu’r dyfodol. Byddem wrth ein bodd yn eich cael ar y daith hon gyda ni a’n helpu i dyfu a chryfhau yn y flwyddyn o’n blaenau.

Cofrestrwch nawr i dderbyn eich cylchlythyr fan hyn i gael newyddion ac ysbrydoliaeth gan ein prosiect a grwpiau. Chwiliwch am eich grŵp lleol er mwyn gallu cyfrannu. Ymunwch â’r hyfforddiant neu ddigwyddiadau  sydd ar y gweill er mwyn ehangu eich dealltwriaeth ac i weithio dros newid dan arweiniad y gymuned.

Skip to content