Vive: y lle i gysylltu

Er bod grwpiau Trawsnewid yn annibynnol, ac mae amodau lleol gwahanol yn berthnasol iddynt, yn aml, byddwn yn rhannu cwestiynau a heriau tebyg yn ein gwaith. Gofod ar-lein yw Vive ar gyfer pobl ym maes Trawsnewid ac eraill sy’n gweithio dros newid dan arweiniad y gymuned. Lle yw lle gallwch ofyn cwestiynau, rhannu syniadau ac ysbrydoliaeth, a lle gallwn ddysgu, tyfu a chefnogi ein gilydd.

Os hoffech fanteisio ar gysylltu â phobl eraill ym maes Trawsnewid sy’n gweithio ar faterion tebyg, megis clywed beth sydd ar y gweill gan grwpiau eraill, a chael mynediad at yr wybodaeth gyffredin a’r ysbrydoliaeth sydd gan y mudiad, dylech ymuno â Vive.

A close up image of a spider's web

Pam Vive?

Gofod moesegol ar-lein yw Vive, sy’n defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored, ac sy’n defnyddio ynni gwyrdd i redeg. Mae’r Rhwydwaith Trawsnewid ar lefel ryngwladol wedi rhoi cynnig ar ac wedi profi’r un dechnoleg er mwyn helpu pobl i gysylltu â’i gilydd ledled y byd – bellach, crëwyd fersiwn sy’n canolbwyntio ar y DU i feithrin cysylltiadau cryfach ymhlith y bobl sy’n gysylltiedig â Thrawsnewid yma.

Gall fod yn anodd torri trwy sŵn a hysbysebion cyfryngau cymdeithasol cyn cyrraedd yr hyn sy’n bwysig.  Er hynny, mae Vive yn fwy na phlatfform cyfryngau cymdeithasol  – lle yw lle gallwn gydweithio ar sail diddordebau cyffredin a’r gwaith rydym yn ei gyflawni i newid ein byd lleol.

Visioning

Dechrau arni

Mae Yaz ar gael i’ch rhoi ar y trywydd iawn, ichi fanteisio i’r eithaf ar Vive, felly cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiynau neu broblemau sydd gennych. Mae Yaz hefyd ar gael i drafod sut y gallwn ddatblygu Vive, ac ym mha ffyrdd eraill y gall cefnogi pobl a grwpiau ym maes Trawsnewid.

Os ydy Vive yn beth newydd ichi, gwyliwch ein fideo er mwyn dysgu mwy.

Ewch â mi i Vive
A screenshot of the Vive platform, showing a list of themed spaces, including food, new economy, nature and Inner Transition.

Sut i ddefnyddio Vive

Mae Vive yn cael ei drefnu’n adrannau thematig a rhanbarthol – er mwyn ichi fod yn aelod o adran Bwyd, Ynni a Gogledd Lloegr ar yr un pryd, er enghraifft. Mae Tyfu Trawsnewid ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd rydym yn cyflawni gwaith estyn allan, cyfathrebu ac yn cryfhau ein grwpiau.  Mae’r rhan fwyaf o adrannau’n agored i bawb ymuno â nhw, er bod rhai â’r nod o gysylltu pobl sy’n rhan o brosiect penodol, ac ar gyfer cyfranogwyr yn unig.

Gellir dilyn a chysylltu â defnyddwyr eraill ar Vive, a gallwch hefyd anfon negeseuon uniongyrchol – delfrydol os hoffech gael mwy o wybodaeth ar eu prosiectau nhw. Hefyd, mae gofod Trawsnewid gyda’n gilydd lle gallwn rannu newyddion, digwyddiadau, cyfleoedd cyllido a chyfleoedd eraill.

Skip to content