Yr hyn ddigwyddodd wrth i 120 o Drawsnewidwyr Ymgynnull

Yr hyn ddigwyddodd wrth i 120 o Drawsnewidwyr Ymgynnull
Chris McCartney
27 Chwefror 2025
12 minute read

Daeth tîm bach o gyfranogwyr ymlaen fel ‘newyddiaduron y dinasyddion’, a chasglu myfyrdodau’r cyfranogwyr. Bu dau aelod o Frynbuga Gyda’n Gilydd ar gyfer yr Hinsawdd, y gwneuthurwyr ffilm, Cam a Mike, yn helpu cofnodi hanes y Cynulliad mewn fideo isod. 

Cafodd rhai o’r sawl a gyrhaeddodd yn gynnar gyfle i ymweld â phrosiectau oedd yn cael eu rhedeg gan ein lleoliad lletyol Transition Wilmslow. O’r cychwyn cyntaf, roedd y cydadwaith yma – neu’r tensiwn ar adegau – rhwng gwneud a meddwl yn teimlo’n bresennol. Disgrifiodd cyd-sylfaenydd Trawsnewid, Rob Hopkins, egwyddor Trawsnewid fel “gobaith â’i lewys wedi’u torchi.”

Y noson cyn y Cynulliad Trawsnewid, daeth 80 o bobl ynghyd ar gyfer swper. Roedd yr ystafell yn llawn bwrlwm! Paru wynebau ac enwau, darganfod a rhannu brwdfrydedd cyffredin, gwneud cysylltiadau newydd a naws o edrych ymlaen at arlwy’r penwythnos. Ar gyfer Christopher Etchells o Win Green Town, roedd yn “hyfryd teimlo egni pobl o ledled y DU yn ceisio gwneud rhywbeth ynghylch cyflwr ein hamgylchedd.”

Trwy gydol y penwythnos, roedd llawr o’r cyfranogwyr wedi cael ei hadfywio a chodwyd ysbryd trwy fod gyda’i gilydd ag eraill oedd yn rhannu nodau a phrosiectau tebyg, a thrwy gyfnewid gwybodaeth, profiad a’r syniadau oedd yn deillio o hynny.  Yn ôl Transition Chipping Norton: “roedd yn wych cael ein hysbrydoli gan gymaint o bobl ar draws Cymru a Lloegr, ac ymhellach na hynny, oedd yn sianelu eu hegni i brosiectau ar lawr gwlad i helpu cymunedau i ffynnu.” Yn ôl cyfranogwr arall: “rhoddwyd gobaith imi ar gyfer y dyfodol!”

Mae Lucy Campbell yn aelod o Frynbuga Gyda’n Gilydd ar gyfer yr Hinsawdd, ac yn un o 8 cyfranogwyr y ‘Cawcws Ieuenctid’ a sefydlwyd i gefnogi pobl ifanc i ymuno â’r Cynulliad a dod â phrofiad o weithredu amgylcheddol mewn cyd-destunau gwahanol. Bu’n myfyrio fod rhannu gwybodaeth yn allweddol: “Er hynny, dim ond hyn a hyn y gall sgyrsiau rhwng pobl debyg eu safbwynt ei gyflawni, a phan fydd y syniadau hyn yn marweiddio, peth da yw chwilio am bobl sy’n iau, neu’n hŷn, neu sy’n byw yn y dref nesaf er mwyn dysgu rhagor, sut i ddelio gyda phroblem mewn ffordd wahanol efallai, neu i gyfuno hen atebion yn atebion newydd.”

Cawsom ein herio gan yr Cawcws Ieuenctid nad y dyfodol yn unig yw pobl ifanc; maent yma nawr, ac maent yn awyddus i gyfrannu at siapio newid. Roedd galwad clir i weithio ar draws y cenedlaethau, i wrando ar a dysgu o ddoethineb pobl hŷn yn ogystal â doethineb pobl ifanc.

Lluniwyd dwy ddogfen ddiddorol yn ystod eu hamser gyda’i gilydd, oedd yn rhannu eu doethineb nhw o ran ymgysylltu â phobl ifanc a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â chyfrannu. Eu casgliad oedd: “Rydym yn awyddus i fod yn rhan o fudiad trawsnewid mewn ffordd sy’n gynaliadwy, llawn effaith a boddhad. Golyga hynny sicrhau y caiff cyfraniad pobl ifanc ei werthfawrogi’n gyffredinol, fod gennym rolau clir, ac y gallwn gyfrannu heb losgi allan neu am weithio am ddim yn ddi-ben-draw. Os gallwn fynd i’r afael â’r heriau hyn, bydd pobl ifanc yn gallu chwarae rׅôl go iawn wrth lywio dyfodol y mudiad.” 

A fyddai modd i Drawsnewid fod yn gyfrwng i bobl ddod ynghyd nid yn unig ar draws cenedlaethau, ond o gefndiroedd a phrofiadau bywyd gwahanol? Mae hynny’n dibynnu arnom ni.  Y llynedd, sefydlwyd Cylch Trawsnewid Cyfiawn er mwyn myfyrio ar y rhwystrau a’r heriau oedd yn wynebu rhai yn ein mudiad, ac i ystyried ymatebion creadigol i’r rhwystrau a’r heriau yma. Ffocws ar gyfer y grŵp anhygoel yma oedd creu gweledigaeth Trawsnewid gynhwysol, cyfiawn a hygyrch yn y Cynulliad.  Aethant ati gyda’r trefnwyr i sicrhau fod Trawsnewid Cyfiawn wrth galon ac ar flaen y gâd – yn hytrach na gweithgaredd ymylol. 

Bu Amanda a Liba o’r Cylch yn arwain seremoni croeso, oedd yn brofiad grymus ym marn llawer o bobl. Gyda’n gilydd, â’n breichiau ar led i ddangos ein bwriad, estynnwyd croeso i bobl o bob hil, gyda phrofiadau bywyd a hunaniaethau amrywiol, a phawb mewn un lle. Gellir darllen y testun cyflawn yma.

Rakesh Rootsman – hyfforddwr a henuriad Trawsnewid yw Rak, sydd wedi cyfrannu at sefydlu nifer o grwpiau yn Llundain a mannau eraill. Mae wedi rhannu ei rwystredigaeth mewn perthynas â’r ffaith er ein bod yn dweud bod croeso i bawb, nid yw’r sawl ar y blaen ac yn y canol yn adlewyrchu amrywiaeth gyfan ein cymunedau. Ymunodd Rakesh â’r Cylch Trawsnewid Cyfiawn a thîm hwyluso’r Cynulliad.  Meddai: “Gwnaeth derbyniad cynnes neges trawsnewid cyfiawn gryn argraff arnaf. Dros ddeuddydd, clywais am gynhwysiant yn cael ei grybwyll mewn adborth, a dywedodd llawer – gan gynnwys y bobl sy’n teimlo eu bod ar yr ymylon yn aml – wrthyf, mor braf oedd hynny. Roedd yn galonogol gweld cymaint o ofal dros y penwythnos, a chlywed ymrwymiad i arfer y sensitifrwydd yna mewn perthynas â phrosiectau Trawsnewid lleol.

“Mae pob un ohonom yma ar gyfer yr un rhesymau. Mae gennym safbwyntiau a strategaethau gwahanol, ond mae’r nod yn y diwedd yr un peth i bawb. Rydym yn debyg i deulu – bydd gennym ein gwahaniaethau, ond rydym yma ar gyfer ein gilydd.”

Yn debyg i deulu estynedig sydd wedi dod ynghyd ar gyfer aduniad, nid ydym yn gwybod popeth am gyd-destunau a bywydau ein gilydd. Mae yna wahaniaethau o ran dulliau gwaith, blaenoriaethau a syniadau ynghylch y ffordd ymlaen yn ein plith. Nid cyfle i’r grŵp cyfan gael cwtsh mawr oedd y Cynulliad; trwy drafodaethau grŵp roedd pobl yn cael cyfle i rannu rhwystredigaethau a thrafferthion, lle yn eu barn nhw roedd Trawsnewid yn tangyflawni efallai, a lle’r oedd grwpiau o’r farn nad oeddynt yn derbyn y cymorth angenrheidiol.

Buom yn trafod cwestiynau dirfodol: beth yw Trawsnewid? Sut gallwn ei gyfleu a pham y byddai unrhyw un yn cyfrannu? Sut gallwn ni cydweithio a chydweithredu i gael effaith go iawn ar adeg pan fod angen brys ar gyfer newid yn ein cymunedau a’r byd? 

Aethom ati i lunio datganiadau am yr effaith y byddem fel mudiad yn hoffi i Drawsnewid ei gael, a buom yn casglu syniadau mewn perthynas â sut y gallwn wireddu’r effaith yna. Rhwydwaith ynni cyffredin fyddai’n gallu creu incwm ar gyfer gwaith Trawsnewid; ymuno â TikTok er mwyn estyn allan; bas data er mwyn rhannu gwybodaeth, templedi a chanllawiau, a chronfa amser a sgiliau i rannu’r wybodaeth sydd gennym. Os byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth gyda’n gilydd, a helpu pobl i ddod ynghyd yn eu cymdogaethau unigol, creu rhwydwaith o erddi coedwig yn y gymuned, a chefnogi tyfwyr bwyd lleol, wedyn byddwn yn estyn allan, yn creu cymunedau iachus, lleol sy’n ffynnu a grwpiau gydag adnoddau sy’n gallu cael mwy o effaith. 

Un o’r trafferthion cyffredin a rannwyd gan nifer o bobl yw sut i gyfleu Trawsnewid a chodi ei broffil. Mae natur holistaidd, ar lawr gwlad Trawsnewid yn fendith ac yn felltith. Oherwydd ei fod â’i wreiddiau’n lleol ac yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr, mae’r gweithredu’n dod ar ffurfiau gwahanol, ac nid ydym yn canolbwyntio ar un newid yn unig, ond yn hytrach rydym yn ail-ddychmygu ein cymunedau ar ystyr ehangach. 

Awgrymodd Jake o’r Cawcws Ieuenctid ateb yn y llun o’r Cynulliad ei hun – gall yr edeifion gynrychioli elfennau gwahanol Trawsnewid. Gwyrdd – ein gwaith ym maes natur a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Melyn – sut rydym yn ymateb i anghenion cymunedau ac yn meithrin cysylltiadau. Gall Coch ymwneud â delio gydag anhegwch ac anghyfiawnder; mae angen i’r agwedd yma gael ei blethu drwy’r holl waith.

Arweiniodd datgelu’r problemau hyn ac enwi ein potensial at ail ddiwrnod ein digwyddiad, a’r rhan oedd yn ei wneud yn ‘Gynulliad’. 

Cefnlen y drafodaeth oedd sut i symud ymlaen:  Cafodd Trawsnewid gyda’n Gilydd ei gynllunio fel prosiect a gyllidwyd ar gyfer 10 mlynedd, ond pan newidiodd y Loteri Genedlaethol eu rhaglenni cyllido, cafodd hyn ei gwtogi i 3½ mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd tîm staff bach  Trawsnewid gyda’n Gilydd wedi gweithio ar hyfforddiant, cyfathrebu, ac wedi dosbarthu gwerth  £430,000 o gyllid sbarduno, sefydlu Vive, rhedeg digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb, wedi ceisio adnoddau ar gyfer y dyfodol ac wedi bugeilio meithrin strwythur democrataidd, proses a gychwynnodd yn 2022 trwy sefydlu’r grŵp gofalwyr. Nod y gwaith yma oedd datblygu strwythur democrataidd, a sicrhau canoli lleisiau Trawsnewidwyr mewn grwpiau lleol. 

Daeth mater cyffredinol o ran sut mae Trawsnewidwyr yn cysylltu ag ac yn cydweithio â’i gilydd yn fwy perthnasol pan ddaeth yn amlwg y byddai’r cyllid yn dod i ben, ac wrth i nifer staff Trawsnewid gyda’n Gilydd gael ei leihau o fis Mawrth. Er bod elusen ryngwladol y Rhwydwaith Trawsnewid yn parhau i gefnogi gwaith Trawsnewid ar lefel fyd-eang, nid oes gan grwpiau yng Nghymru a Lloegr unrhyw strwythur er mwyn cysylltu’n uniongyrchol â hynny. 

Bu grŵp bach o Drawsnewidwyr, dan arweiniad Phil Frodsham, Transition New Mills, yn gweithio ar gynnig llywodraethu – sef strwythur i grwpiau cysylltu, cydweithio a chydweithredu. Rhannwyd y cynnig cyn y Cynulliad, ac fe’i gyflwynwyd ar y bore Sul er mwyn i gyfranogwyr ei ystyried. 

Yn y cynnig, byddai grwpiau Trawsnewid yn cael eu cysylltu trwy gylchoedd sirol a rhanbarthol. Byddai Cylch ar gyfer Cymru a Lloegr yn dod â’r rhanbarthau hyn ynghyd, ynghyd ag eraill ar gyfer tasg benodol neu faes arbenigedd, megis datrys anghydfod neu ieuenctid. Cylchoedd yw prif seiliau allweddol sosiocratiaeth – ffordd o wneud penderfyniadau a threfnu a seilir ar gydsyniad. Mae rhai grwpiau Trawsnewid yn arfer y dull yn barod, a’i ddiben yw rhoi llais i bawb. Mae Cylchoedd yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac roedd y cynnig yn awgrymu ffordd i gadw mewn cysylltiad a sicrhau fod gwybodaeth yn llifo rhwng y cylchoedd. 

Mewn grwpiau rhanbarthol bach, bu cyfranogwyr yn ymateb i’r hyn a rannwyd.  Roedd cyffro mewn perthynas â chadw mewn cysylltiad, mynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr a datgloi’r effaith a ddychmygwyd y diwrnod cynt. Rhaid gwneud hyn mewn ffyrdd syml ac effeithiol sy’n gweithio i grwpiau prysur a grwpiau lleol sydd dan bwysau. Mynegwyd pryderon mewn perthynas â chreu gormod o haenau biwrocrataidd, ac y dylai grwpiau lleol gadw eu hymreolaeth. 

Wnaethon ni sefyll mewn cylch, a chodwyd nifer o gwestiynau. Roedd rhai’n nodi nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth neu fanylion am yr hyn y byddai’r cylchoedd yn ei wneud, pa adnoddau fyddai ganddynt, sut y byddai grwpiau lleol yn cysylltu ag ac yn cael eu cefnogi. Roedd eraill yn ceisio cadarnhad o ran gwerthoedd cyffredin fyddai’n tanategu’r strwythur ac yn cadw pawb ynghyd. Roedd llawer o’r farn nad oedd digon o amser ar ddiwedd y cynulliad i ofyn ac ateb yr holl amheuon a chwestiynau yn yr ystafell. Sgwrs arw oedd hon, ac ymddengys y ffordd ymlaen yn aneglur. 

Wedyn, cododd y niwl. Awgrymodd Daniel Balla, aelod o dîm Trawsnewid gyda’n Gilydd, cynnig nad oedd yn dibynnu ar weithio popeth allan eto: sef, y byddem yn cytuno i barhau i ofyn y cwestiynau hyn ac ystyried atebion. Gofynnodd: “A yw’n ddigon da am y tro, a digon diogel i roi cynnig ar hynny…. Ein bod ni, fel mudiad, yn cytuno i grŵp o bobl fynd ati i ystyried sefydlu Cylch Cenedlaethol, a datblygu’r strwythur i fod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn gyflawnadwy?”

Cafwyd eiliad pan ofynnwyd i gyfranogwyr gymryd cam ymlaen, cam symbolaidd, os oeddynt yn awyddus i gymryd cam i fod yn rhan o ddarganfod y ffordd ymlaen. Er gwaethaf y cwestiynau, pryderon, a thensiynau, cymerodd 44 o bobl gam ymlaen at ei gilydd. Nid oedd y weithred fach hon yn anwybyddu’r blerwch; roedd yn fwyfwy dilys oherwydd yr holl amheuon a chwestiynau oedd gan y bobl oedd yn cymryd y cam ymlaen. 

Ar gyfer un cyfranogwr, hwn oedd yr uchafbwynt: “pan wnaethon ni gytuno ar y cynnig, gyda phawb yn camu ymlaen – roedd yn eiliad hynod rymus a chyffrous. Roedd yn teimlo ein bod wedi gwneud penderfyniad ac y bydd y gweithredu’n dilyn.” 

Mae’r gweithredu’n dechrau dod i’r amlwg.  Bydd y sawl a gamodd ymlaen yn dechrau cwrdd, gan gyfeirio at yr adborth, ac addasu’r cynnig yn rhywbeth fydd yn denu cefnogaeth ac ymgysylltiad grwpiau Trawsnewid. Mae ymrwymiad i rannu’r broses gyda’r mudiad ehangach. Bydd gan Trawsnewid gyda’n Gilydd dîm staff llai rhwng mis Mawrth a Medi, er mwyn cefnogi’r broses hon. Bydd y ‘tîm Pontio’ yn gweithio gyda’r mudiad i ddechrau adeiladu pont i’r hyn sy’n dod nesaf. 

Yn y pen draw, mae’r Cynulliad wedi dechrau proses a deialog newydd – nid pwynt terfyn. Y gobaith yw y bydd cyfle i 120 o bobl gyfrannu yn y bennod ddiweddaraf hon, ac y bydd yn ei fywiogi, ac yn rhoi mwy o berthnasedd i’r Mudiad Trawsnewid ehangach ar lawr gwlad, gyda llawer o gyfranogwyr yn adrodd nôl i’w grwpiau lleol. Erbyn hyn, mae hi fyny i bob un ohonom sut rydym am gysylltu, cydweithredu, ymgysylltu a llywio’r hyn sy’n dod nesaf. 

Wrth gloi, dyma ychydig o eiriau gan Lucy Campbell: “Dim ond ar y cyd y gallwn wneud unrhyw newid systemig, gwirioneddol. Rhywbeth y mae angen mawr amdano er mwyn gwneud nid yn unig ein cymunedau ond ein gwlad yn gyffredinol yn lle gwell – ar gyfer yr amgylchedd, ein hunain, ein plant, a’n neiniau a’n teidiau… Dyfodol gwell, a rhyw ddydd, presennol gwell … Mae angen i bob un ohonom gyfrannu er mwyn gwireddu hyn.” 

Skip to content