Gallwn Gyda'n Gilydd

Ymunwch â ni i wireddu grym yr hyn y gallwn ei wneud, a bod gyda’n gilydd. Os ydych yn teimlo’n flinedig, yn ddi-rym ac wedi gorlethu gan y ddwy flynedd aeth heibio, oherwydd yr her i’n hamser, mae gennym yr ateb delfrydol ichi.

Ni fedrwn wneud llawer ar ein pennau ein hunain, ond gyda’n gilydd, mae hynny’n newid. Ar y cyd, gallwn ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu.  Law yn llaw, gallwn gael hyd i a gweithredu ar ein gobaith a’n grym. Gyda’n gilydd, gallwn, a byddwn yn adeiladu dyfodol gwell.

Together We Can: Summit 11-21st May

Beth i’w ddisgwyl?

Uwchgynhadledd ar-lein, deg diwrnod o hyd yw ‘Gallwn Gyda’n Gilydd’ llawn cyflwyniadau diddorol, gweithdai rhyngweithiol a siaradwyr penigamp. Trawsnewid Gyda’n Gilydd, sy’n cysylltu ag ac yn cefnogi grwpiau Trawsnewid yn y DU, sy’n ei threfnu.  Croeso cynnes i bawb.

Magu gobaith o’r newydd gyda’r Storm o Straeon gan gymunedau sy’n arwain ym maes newid. Cyfle i ddarganfod gyda’n gilydd sut y gallwn ailwampio’r economi leol, gwrthsefyll mewn ffordd greadigol ac ail-wylltio’r byd. Mynd i’r afael â heriau trefnu gweithgareddau cymunedol ar y cyd â rhannu sgiliau, gweithdai a chlinigau modryb ofidiau.  Sesiynau ymarferol a chyfle i atgyweirio a thyfu fertigol, neu i fwyta gyda’n gilydd, i gysylltu â’n gilydd ac adfywio.

Methrin

Mae tair elfen hollbwysig yn greiddiol i hyn:

Meithrin – sef eich meithrin a’ch cynnal. Mae wedi bod yn gyfnod anodd – mae pawb wedi teimlo’r straen o helpu eraill trwy’r profiad hwn. Dyma’r cyfle i ddarganfod a magu eich gwydnwch eich hun, i gael lle i brosesu ac i dderbyn cefnogaeth gan eraill.

Adeiladu

Adeiladu – fydd yn paratoi eich grŵp i wireddu ei nodau. Gellir darganfod sut i gynnwys pobl newydd, cynnwys cyfiawnder cymdeithasol yn eich gwaith, a sicrhau y cynhelir eich effaith. Gallwch ddisgwyl gweithdai ‘sut i’ fydd yn ddefnyddiol, cyfranogol ac yn bwrpasol i anghenion grwpiau Trawsnewid.

Ysbrydoli

Ysbrydoli – sy’n cynnig cipolwg ar y dyfodol gwell sy’n cael ei feithrin gan gymunedau heddiw. Straeon go iawn sy’n ein hatgoffa am y newid sy’n bosibl trwy weithredu cymunedol.  Bydd yr elfen hon yn eich annog i fagu brwdfrydedd eto, a nerth newydd, a gobaith yn eich gweithgarwch.

Ymunwch â ni

Cynhelir yr holl sesiynau ar-lein. Does dim cost ar gyfer yr Uwchgynhadledd, er mwyn sicrhau ei bod mor gynhwysol a hygyrch â phosib. Os gallwch, ac os ydy’r digwyddiad o werth ichi, croeso ichi roi cyfraniad ariannol wrth archebu lle. Bydd unrhyw arian a godir yn mynd yn uniongyrchol i sicrhau fod gwaith Trawsnewid Gyda’n Gilydd yn fwy cynhwysol yn y dyfodol.

Dewiswch ‘Tocyn Uwchgynhadledd’ i gael mynediad at bob sesiwn a gweithdy, diweddariadau rheolaidd a’n gofod ar-lein, Humhub, lle gallwch archwilio cynnwys yr Uwchgynhadledd a magu cysylltiadau â siaradwyr a chyfranogwyr.

Gyda…

Jon Alexander

New Citizenship Project, Awdur – Citizens
Gallwn gyda’n gilydd … fod yn ddinasyddion nid defnyddwyr

Immy Kaur

Cyfarwyddwr – Civic Square
Gallwn gyda’n gilydd… feddiannu gofod a’i droi yn ein gofod ni

Syd Yang

Iachäwr, Llenor, Artist
Gallwn gyda’n gilydd … adeiladu mudiadau mwy cynhwysol

Rob Hopkins

Sylfaenydd y Mudiad Trawsnewid
Storm o Straeon

Yumna Hussen

Actifydd Hinsawdd – Pobl Ifanc / bardd
Gallwn gyda’n gilydd … fod yn ddinasyddion nid defnyddwyr

Monica Cru-Hall

Mam, Therapydd Celfyddydau Creadigol, Addysgwr
Gallwn gyda’n gilydd… greu economi gymdeithasol lewyrchus

Twrnai hawliau brodorol, awdur, actifydd
Gallwn gyda’n gilydd … adeiladu mudiadau mwy cynhwysol

Claude Henrickson

Leeds Community Homes
Gallwn gyda’n gilydd… feddiannu gofod a’i droi yn ein gofod ni

Hannah Peel

Cyfansoddwr, Artist, Cerddor, Darlledwr

Mwy o ffyrdd i gysylltu

Bydd Man Agored wythnos o hyd ar-lein yn dilyn rhaglen yr Uwchgynhadledd, fydd yn cynnig cyfle i barhau i gysylltu, darganfod a derbyn manylion pellach am y themâu sy’n deillio o’r digwyddiad. Gallwch gynnig sesiwn Man Agored fan hyn, a byddwn yn rhannu manylion sesiynau gyda chyfranogwyr yr Uwchgynhadledd

Mae Vive yn ofod cyffrous newydd ar-lein ar gyfer Trawsnewidwyr i gysylltu, rhannu, dysgu a chefnogi ei gilydd. Profiad gwych yw cael ei dreialu ar gyfer Uwchgynhadledd eleni. Ar Vive, byddwch yn gallu rhyngweithio’n fyw gyda chyfranogwyr eraill a siaradwyr, ffurfio ac ymuno â grwpiau a seilir ar themâu cyffredin ac archwilio’n fwy manwl sesiynau a siaradwyr. Adeg cofrestru, cewch wahoddiad i ymaelodi.

Beth sydd ymlaen

Cymerwch gip ar y sesiynau a’r siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau eisoes, yn ôl dyddiad neu thema. Byddwn yn ychwanegu mwy o gynnwys yn rheolaidd rhwng hyn a’r digwyddiad – cofrestrwch heddiw ar gyfer Tocyn i’r Uwchgynhadledd, i sicrhau y byddwch yn derbyn y newyddion diweddaraf.

Cynhelir y sesiynau yn Saesneg. Croeso ichi e-bostio ni os bydd hyn yn rhwystr i’ch cyfranogiad.

Dydd Iau 12 Mai

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd … arfer Economeg Toesen

7:00 pm – 9:00 pm

Syniad grymus sy’n lledu’n gyflym ledled y byd, ond sut mae’n gweithio ar lefel leol? Ymunwch â Rob Shorter, Doughnut Economics Action Lab ac actifyddion ar draws y DU ar gyfer straeon cymunedau sy’n ei ddefnyddio i ddatgloi ffordd newydd o feddwl ac i greu newid ymarferol.

Dydd Gwener 13 Mai

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd … cyfryngau cymdeithasol penigamp

10:00 am – 11:30 am

Ymunwch â Rhiannon a Chris o dîm cyfathrebu Trawsnewid gyda’n Gilydd ar gyfer sesiwn rhannu sgiliau ymarferol i roi hwb i bresenoldeb eich grŵp ar gyfryngau cymdeithasol. Byddant yn rhannu cyngor defnyddiol ac yn ystyried sut i ddweud straeon anorchfygol a diddorol i ddenu pobl atoch.

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd … sefydlu canolfan argyfwng yn yr hinsawdd

12:00 pm – 1:30 pm

Mae hybiau hinsawdd dan arweiniad y gymuned yn ymddangos ar draws y DU, ac yn ganolbwynt ar gyfer gweithredu a mentrau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac i feithrin gwydnwch lleol. Bydd Ben McCallan, Zero Carbon Guildford yn rhannu hanes agor eu gofod prysur nhw mewn hen siop ddillad ar y stryd fawr.

Dydd Sadwrn 14 Mai

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd … tyfu ein grwpiau

10:00 am – 5:00 pm

Bydd Beth Foster Ogg, sy’n hen law ym maes trefnu gweithgareddau cymunedol a Rhiannon Colvin, o gynllun Trawsnewid Gyda’n Gilydd  yn arwain gweithdy diwrnod o hyd ar ddenu pobl newydd i’ch grŵp Trawsnewid, i sicrhau ei fod yn ehangu ac yn cynnal ei hun yn hirdymor. Bydd gofyn i ddau neu fwy o’ch grŵp fynychu’r sesiwn llawn. Llefydd cyfyngedig ar gael; gallwch archebu’n fuan.

Adeiladu

Modryb Ofidiau Trawsnewid

10:00 am – 11:00 am

Gwyddom nad yw gweithredu dan arweiniad y gymuned yn rhwydd.  Mae llawer o heriau ynghlwm wrtho, ac mae’n anodd gwybod ble i droi am gyngor.  Hwyrach y bydd Modryb Ofidiau Trawsnewid yn gallu helpu.  Dewch â’ch cwestiynau a bydd ein Modryb yn rhannu profiadau ac yn ceisio helpu.

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd … cael eich arwain gan bobl ifanc

5:00 pm – 6:30 pm

Beth petai pobl ifanc yn rhedeg y byd?  Beth petai pawb yn teimlo’n ddiogel, yn hyderus ac yn barod i greu newid? Mae hwn yn drafodaeth bwysig beth bynnag fo’ch oedran.  Pobl ifanc yw’r presennol a’r dyfodol. Mae angen cynghreiriaid, felly dewch atom i ddysgu sut y gallwch wrando, cynnwys a chael eich arwain gan bobl ifanc yn eich cymuned chi ac mewn prosiectau. Gyda Yumna Hussen o dîm rhaglennu’r Uwchgynhadledd a ffrindiau.

Dydd Gwener 20 Mai

Adeiladu

Modryb Ofidiau Trawsnewid

10:00 am – 11:00 am

Gwyddom nad yw gweithredu dan arweiniad y gymuned yn rhwydd.  Mae llawer o heriau ynghlwm wrtho, ac mae’n anodd gwybod ble i droi am gyngor.  Hwyrach y bydd Modryb Ofidiau Trawsnewid yn gallu helpu.  Dewch â’ch cwestiynau a bydd ein Modryb yn rhannu profiadau ac yn ceisio helpu.

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd… ddysgu’r gelf o wahodd

10:00 am – 6:00 pm

Sut gallwn ofyn cwestiynau mewn ffordd greadigol sy’n arwain at drafodaeth a deialog arwyddocaol? Mae’r ‘Art of Invitation’ yn ystyried ffyrdd creadigol o ymgysylltu cymunedau â heriau ecolegol, diwylliannol a chymdeithasol ein hoes. Ymunwch â’r Artist, Actifydd a Hwylusydd anhygoel Ruth Ben-Tovim, ar gyfer y gweithdy ymarferol hwn sy’n cynnig arfau newid creadigol newydd ichi a’ch grwpiau. Mae llefydd cyfyngedig ar gael – cofiwch gadw lle drwy’r botwm isod.

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd… greu cyfrwng newydd

11:00 am – 1:00 pm

Yng nghysgod cyfryngau prif ffrwd sy’n ein carfanu ac ein yn dirymu, mae llawer o bobl yn ceisio dweud stori newydd am botensial cymdeithasol a newid byd-eang. Sut gallwn weithio’n effeithiol gyda’n gilydd i gynnig dewis amgen gwirioneddol? Ymunwch ag Indra Adnan, sylfaenydd The Alternative Global i ystyried y pwnc.

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd… addysgu, galluogi, grymuso

4:00 pm – 6:00 pm

Pryd yw’r amser iawn i addysgu, pryd dylen ni alluogi, a sut gallwn rymuso pobl orau? Yn y gweithdy hwn, sydd â thair rhan, bydd digon o gyfle i ystyried pob agwedd yng nghwmni John a Peter Bird, sylfaenwyr Big Issue, Rakesh Aji, Monica Cru-Hall a mwy. Gallwch ystyried sut i sicrhau cydbwysedd rhwng y dulliau gwaith hyn er mwyn creu hafan o newid cadarnhaol.

Dydd Sadwrn 21 Mai

Adeiladu

Modryb Ofidiau Trawsnewid

10:00 am – 11:00 am

Gwyddom nad yw gweithredu dan arweiniad y gymuned yn rhwydd.  Mae llawer o heriau ynghlwm wrtho, ac mae’n anodd gwybod ble i droi am gyngor.  Hwyrach y bydd Modryb Ofidiau Trawsnewid yn gallu helpu.  Dewch â’ch cwestiynau a bydd ein Modryb yn rhannu profiadau ac yn ceisio helpu.

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd … cychwyn grŵp Trawsnewid

11:00 am – 1:00 pm

Yn ystyried cychwyn eich Grŵp Trawsnewid eich hun? Neu efallai eich bod ar gychwyn eich taith Drawsnewid? Ymunwch â Rhiannon Colvin, Trawsnewid gyda’n Gilydd, ac aelodau grwpiau Trawsnewid profiadol i ddysgu sgiliau, cyngor a thechnegau defnyddiol i’ch rhoi ar y trywydd iawn.

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd… arfer cyngrheiriaeth dda

2:00 pm – 3:30 pm

Mae sut gallwn fod yn dda’n berthnasol i amlygu lleisiau nas clywir yn aml, neu sy’n cael eu hepgor? Mae amrywiaeth a safbwyntiau gwahanol o fudd i bawb o ran ehangu a chyfoethogi’r gallu i greu newid mewn cymunedau. Gellir dysgu sut i arfer cynghreiriaeth a herio difaterwch er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd … magu rhwydweithiau newid

2:00 pm – 5:30 pm

Yn y gweithdy rhyngweithiol a chyfranogol hwn, cewch glywed straeon ysbrydol rhwydweithiau sy’n gweithredu ym maes yr hinsawdd dan arweiniad eu cymunedau, manteisio ar a rhoi cefnogaeth i’ch gilydd a meithrin sgiliau mewn meysydd allweddol i fagu rhwydweithiau gwell.

Adeiladu

Gallwn gyda’n gilydd… greu bywoliaethau cynaliadwy

4:00 pm – 6:00 pm

Sut gallwn alluogi pobl i fodloni anghenion sylfaenol trwy fusnesau ac economi lleol cynaliadwy a llewyrchus? Ymunwch â Rhiannon Colvin a siaradwyr ar ran cydweithfeydd, busnesau cymunedol a phrosiectau meithrin cyfoeth cymunedol ar gyfer sesiwn ymarferol o ran sut i ddechrau trawsnewid eich economi leol.

Skip to content