Gallwn Gyda'n Gilydd

Ymunwch â ni i wireddu grym yr hyn y gallwn ei wneud, a bod gyda’n gilydd. Os ydych yn teimlo’n flinedig, yn ddi-rym ac wedi gorlethu gan y ddwy flynedd aeth heibio, oherwydd yr her i’n hamser, mae gennym yr ateb delfrydol ichi.

Ni fedrwn wneud llawer ar ein pennau ein hunain, ond gyda’n gilydd, mae hynny’n newid. Ar y cyd, gallwn ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu.  Law yn llaw, gallwn gael hyd i a gweithredu ar ein gobaith a’n grym. Gyda’n gilydd, gallwn, a byddwn yn adeiladu dyfodol gwell.

Together We Can: Summit 11-21st May

Beth i’w ddisgwyl?

Uwchgynhadledd ar-lein, deg diwrnod o hyd yw ‘Gallwn Gyda’n Gilydd’ llawn cyflwyniadau diddorol, gweithdai rhyngweithiol a siaradwyr penigamp. Trawsnewid Gyda’n Gilydd, sy’n cysylltu ag ac yn cefnogi grwpiau Trawsnewid yn y DU, sy’n ei threfnu.  Croeso cynnes i bawb.

Magu gobaith o’r newydd gyda’r Storm o Straeon gan gymunedau sy’n arwain ym maes newid. Cyfle i ddarganfod gyda’n gilydd sut y gallwn ailwampio’r economi leol, gwrthsefyll mewn ffordd greadigol ac ail-wylltio’r byd. Mynd i’r afael â heriau trefnu gweithgareddau cymunedol ar y cyd â rhannu sgiliau, gweithdai a chlinigau modryb ofidiau.  Sesiynau ymarferol a chyfle i atgyweirio a thyfu fertigol, neu i fwyta gyda’n gilydd, i gysylltu â’n gilydd ac adfywio.

Methrin

Mae tair elfen hollbwysig yn greiddiol i hyn:

Meithrin – sef eich meithrin a’ch cynnal. Mae wedi bod yn gyfnod anodd – mae pawb wedi teimlo’r straen o helpu eraill trwy’r profiad hwn. Dyma’r cyfle i ddarganfod a magu eich gwydnwch eich hun, i gael lle i brosesu ac i dderbyn cefnogaeth gan eraill.

Adeiladu

Adeiladu – fydd yn paratoi eich grŵp i wireddu ei nodau. Gellir darganfod sut i gynnwys pobl newydd, cynnwys cyfiawnder cymdeithasol yn eich gwaith, a sicrhau y cynhelir eich effaith. Gallwch ddisgwyl gweithdai ‘sut i’ fydd yn ddefnyddiol, cyfranogol ac yn bwrpasol i anghenion grwpiau Trawsnewid.

Ysbrydoli

Ysbrydoli – sy’n cynnig cipolwg ar y dyfodol gwell sy’n cael ei feithrin gan gymunedau heddiw. Straeon go iawn sy’n ein hatgoffa am y newid sy’n bosibl trwy weithredu cymunedol.  Bydd yr elfen hon yn eich annog i fagu brwdfrydedd eto, a nerth newydd, a gobaith yn eich gweithgarwch.

Ymunwch â ni

Cynhelir yr holl sesiynau ar-lein. Does dim cost ar gyfer yr Uwchgynhadledd, er mwyn sicrhau ei bod mor gynhwysol a hygyrch â phosib. Os gallwch, ac os ydy’r digwyddiad o werth ichi, croeso ichi roi cyfraniad ariannol wrth archebu lle. Bydd unrhyw arian a godir yn mynd yn uniongyrchol i sicrhau fod gwaith Trawsnewid Gyda’n Gilydd yn fwy cynhwysol yn y dyfodol.

Dewiswch ‘Tocyn Uwchgynhadledd’ i gael mynediad at bob sesiwn a gweithdy, diweddariadau rheolaidd a’n gofod ar-lein, Humhub, lle gallwch archwilio cynnwys yr Uwchgynhadledd a magu cysylltiadau â siaradwyr a chyfranogwyr.

Gyda…

Jon Alexander

New Citizenship Project, Awdur – Citizens
Gallwn gyda’n gilydd … fod yn ddinasyddion nid defnyddwyr

Immy Kaur

Cyfarwyddwr – Civic Square
Gallwn gyda’n gilydd… feddiannu gofod a’i droi yn ein gofod ni

Syd Yang

Iachäwr, Llenor, Artist
Gallwn gyda’n gilydd … adeiladu mudiadau mwy cynhwysol

Rob Hopkins

Sylfaenydd y Mudiad Trawsnewid
Storm o Straeon

Yumna Hussen

Actifydd Hinsawdd – Pobl Ifanc / bardd
Gallwn gyda’n gilydd … fod yn ddinasyddion nid defnyddwyr

Monica Cru-Hall

Mam, Therapydd Celfyddydau Creadigol, Addysgwr
Gallwn gyda’n gilydd… greu economi gymdeithasol lewyrchus

Twrnai hawliau brodorol, awdur, actifydd
Gallwn gyda’n gilydd … adeiladu mudiadau mwy cynhwysol

Claude Henrickson

Leeds Community Homes
Gallwn gyda’n gilydd… feddiannu gofod a’i droi yn ein gofod ni

Hannah Peel

Cyfansoddwr, Artist, Cerddor, Darlledwr

Mwy o ffyrdd i gysylltu

Bydd Man Agored wythnos o hyd ar-lein yn dilyn rhaglen yr Uwchgynhadledd, fydd yn cynnig cyfle i barhau i gysylltu, darganfod a derbyn manylion pellach am y themâu sy’n deillio o’r digwyddiad. Gallwch gynnig sesiwn Man Agored fan hyn, a byddwn yn rhannu manylion sesiynau gyda chyfranogwyr yr Uwchgynhadledd

Mae Vive yn ofod cyffrous newydd ar-lein ar gyfer Trawsnewidwyr i gysylltu, rhannu, dysgu a chefnogi ei gilydd. Profiad gwych yw cael ei dreialu ar gyfer Uwchgynhadledd eleni. Ar Vive, byddwch yn gallu rhyngweithio’n fyw gyda chyfranogwyr eraill a siaradwyr, ffurfio ac ymuno â grwpiau a seilir ar themâu cyffredin ac archwilio’n fwy manwl sesiynau a siaradwyr. Adeg cofrestru, cewch wahoddiad i ymaelodi.

Beth sydd ymlaen

Cymerwch gip ar y sesiynau a’r siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau eisoes, yn ôl dyddiad neu thema. Byddwn yn ychwanegu mwy o gynnwys yn rheolaidd rhwng hyn a’r digwyddiad – cofrestrwch heddiw ar gyfer Tocyn i’r Uwchgynhadledd, i sicrhau y byddwch yn derbyn y newyddion diweddaraf.

Cynhelir y sesiynau yn Saesneg. Croeso ichi e-bostio ni os bydd hyn yn rhwystr i’ch cyfranogiad.

Dydd Mercher 11 Mai

Ysbrydoli

Storm o Straeon

7:00 pm – 9:00 pm

Deuddeg o hanesion llawn ysbrydoliaeth am newid dan arweiniad cymunedau –twnnel gwynt o obaith ac un o uchafbwyntiau Uwchgynhadledd y llynedd. Roedd pawb wedi mwynhau cymaint, rydym yn rhoi ail gynnig arno. Daliwch yn dynn.

Dydd Gwener 13 Mai

Ysbrydoli

Gallwn gyda’n gilydd … adeiladu mudiadau mwy cynhwysol

7:00 pm – 9:00 pm

Cyfle i glywed syniadau unigolion ac ymarferwyr hynod ar sut gall ein mudiadau adlewyrchu amrywiaeth go iawn ein cymunedau. Bydd y sesiwn yn rhoi arfau a dulliau meddwl ichi wneud newidiadau arwyddocaol i’ch ffordd o weithio. Gyda Syd Yang, Amina Aweis, Gurpreet Singh a Sherri Mitchell – Weh’na Ha’mu Kwasset.

Dydd Sadwrn 14 Mai

Ysbrydoli

Gallwn gyda’n gilydd … fod yn ddinasyddion nid defnyddwyr

1:00 pm – 2:00 pm

Mae llyfr newydd Jon Alexander, ‘Citizens’ yn cael effaith fawr ar y byd, ac yn dadlau dros newid diwylliannol o ystyried ein hunain fel defnyddwyr, ac yn hytrach gweld ein hunain fel dinasyddion. Yn y sesiwn hwn, bydd Jon yn sgwrsio gyda Yumna Hussen, sy’n rhan o’r tîm Gallwn Gyda’n Gilydd.

Ysbrydoli

Gallwn gyda’n gilydd … ail-wylltio ein byd

7:00 pm – 9:00 pm

Mae’r pandemig wedi peri i lawer ohonom ail-asesu gwerth mannau gwyllt ac agored. Wrth inni gefnu arno, sut gallwn wneud mwy o le ar gyfer natur ac ail-wylltio ein ffordd o ryngweithio â natur? Beth mae ail-wylltio’n ei olygu mewn llefydd gwahanol – ar strydoedd dinasoedd, ardaloedd gwledig neu mewn cymunedau lle mae perygl o lifogydd? Gyda George Monbiot, Jay Griffiths, Beth Colliers a Frag Last.

Dydd Llun 16 Mai

Ysbrydoli

Gallwn gyda’n gilydd… ddefnyddio grym gallu creadigol

7:00 pm – 9:00 pm

Mae datblygiad y ‘Datganiad Diwylliant’ a’r ‘Datganiad Cerdd’ yn cynrychioli’r byd creadigol sy’n camu i’r adwy o ran yr argyfwng yn yr hinsawdd. Beth maen nhw’n ei wneud, a pham mae’n hollbwysig o ran llywio’r degawd nesaf? Gyda Hannah Peel, Nigel Adams, Chloe Naldrett a Amina Atiq.

Dydd Mawrth 17 Mai

Ysbrydoli

Gallwn gyda’n gilydd… wrthsefyll mewn ffordd greadigol

7:00 pm – 9:00 pm

Ledled y byd, mae cymunedau’n sefyll i wrthsefyll arferion cloddiol, trais gan wledydd a hiliaeth systemig. Nid ydynt yn gofyn caniatâd, yn hytrach maent yn cymryd camau dewr i wrthsefyll hyn. Cewch glywed gan rai ohonynt heno.

Dydd Mercher 18 Mai

Ysbrydoli

Gallwn gyda’n gilydd… greu economi gymdeithasol lewyrchus

7:00 pm – 9:00 pm

Mae economi newydd yn cael ei chreu, un a seilir mewn lle, cyfiawnder cymdeithasol a thegwch – cewch gwrdd â’r arloeswyr sydd wedi torchi eu llewys. Cyfle i wrando ar ymarferwyr blaenllaw sy’n gweithio gyda chymunedau ymylol i greu cyfleoedd newydd a modelau cyfranogi newydd. Gyda Mike Riddell (Operation Black Vote), Alex Phillips (UnLtd) a eraill.

Dydd Iau 19 Mai

Ysbrydoli

Gallwn gyda’n gilydd… greu system fwyd atgynhyrchiol a thecach

7:00 pm – 9:00 pm

Mae economi newydd yn cael ei chreu, un a seilir mewn lle, cyfiawnder cymdeithasol a thegwch – cewch gwrdd â’r arloeswyr sydd wedi torchi eu llewys. Cyfle i wrando ar ymarferwyr blaenllaw sy’n gweithio gyda chymunedau ymylol i greu cyfleoedd newydd a modelau cyfranogi newydd.

Dydd Gwener 20 Mai

Ysbrydoli

Gallwn gyda’n gilydd… feddiannu gofod a’i droi yn ein gofod ni

7:00 pm – 9:00 pm

Mae argyfwng tai yn effeithio ar bobl ledled y wlad wrth i’r ‘farchnad’ fethu cymunedau dro ar ôl tro.  Mae prisiau’n codi, a digartrefedd yn cynyddu. Ond beth petai cymunedau’n troi’n ddatblygwyr eu hunain? Mae’n digwydd eisoes. Cyfle i glywed gan ymarferwyr blaenllaw megis Immy Kaur (Civic Square), Claude Henrickson (Leeds Community Homes) a Frances Northrop (Atmos Totnes) ac ystyried sut y gall eich cymuned gychwyn cynllun tebyg.

Dydd Sadwrn 21 Mai

Ysbrydoli

Gallwn gyda’n gilydd… adrodd gwell straeon am drawsnewid

7:00 pm – 9:00 pm

Er mwyn gwneud popeth sy’n angenrheidiol dros y degawd nesaf, mae angen inni wella’n sylweddol wrth ddweud straeon, cyfleu realiti’r hyn sydd o’n blaenau os na weithredwn, ond hefyd y byd y gallwn ei greu o hyd. Sut i fod yn storïwyr anhygoel? Bydd y sesiwn hwn yn clywed gan ran o’r storïwyr gorau rydym yn gwybod amdanynt. Gyda Belina Raffy, Manda Scott a Inua Ellams.

Skip to content