Gallwn Gyda'n Gilydd

Ymunwch â ni i wireddu grym yr hyn y gallwn ei wneud, a bod gyda’n gilydd. Os ydych yn teimlo’n flinedig, yn ddi-rym ac wedi gorlethu gan y ddwy flynedd aeth heibio, oherwydd yr her i’n hamser, mae gennym yr ateb delfrydol ichi.

Ni fedrwn wneud llawer ar ein pennau ein hunain, ond gyda’n gilydd, mae hynny’n newid. Ar y cyd, gallwn ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu.  Law yn llaw, gallwn gael hyd i a gweithredu ar ein gobaith a’n grym. Gyda’n gilydd, gallwn, a byddwn yn adeiladu dyfodol gwell.

Together We Can: Summit 11-21st May

Beth i’w ddisgwyl?

Uwchgynhadledd ar-lein, deg diwrnod o hyd yw ‘Gallwn Gyda’n Gilydd’ llawn cyflwyniadau diddorol, gweithdai rhyngweithiol a siaradwyr penigamp. Trawsnewid Gyda’n Gilydd, sy’n cysylltu ag ac yn cefnogi grwpiau Trawsnewid yn y DU, sy’n ei threfnu.  Croeso cynnes i bawb.

Magu gobaith o’r newydd gyda’r Storm o Straeon gan gymunedau sy’n arwain ym maes newid. Cyfle i ddarganfod gyda’n gilydd sut y gallwn ailwampio’r economi leol, gwrthsefyll mewn ffordd greadigol ac ail-wylltio’r byd. Mynd i’r afael â heriau trefnu gweithgareddau cymunedol ar y cyd â rhannu sgiliau, gweithdai a chlinigau modryb ofidiau.  Sesiynau ymarferol a chyfle i atgyweirio a thyfu fertigol, neu i fwyta gyda’n gilydd, i gysylltu â’n gilydd ac adfywio.

Methrin

Mae tair elfen hollbwysig yn greiddiol i hyn:

Meithrin – sef eich meithrin a’ch cynnal. Mae wedi bod yn gyfnod anodd – mae pawb wedi teimlo’r straen o helpu eraill trwy’r profiad hwn. Dyma’r cyfle i ddarganfod a magu eich gwydnwch eich hun, i gael lle i brosesu ac i dderbyn cefnogaeth gan eraill.

Adeiladu

Adeiladu – fydd yn paratoi eich grŵp i wireddu ei nodau. Gellir darganfod sut i gynnwys pobl newydd, cynnwys cyfiawnder cymdeithasol yn eich gwaith, a sicrhau y cynhelir eich effaith. Gallwch ddisgwyl gweithdai ‘sut i’ fydd yn ddefnyddiol, cyfranogol ac yn bwrpasol i anghenion grwpiau Trawsnewid.

Ysbrydoli

Ysbrydoli – sy’n cynnig cipolwg ar y dyfodol gwell sy’n cael ei feithrin gan gymunedau heddiw. Straeon go iawn sy’n ein hatgoffa am y newid sy’n bosibl trwy weithredu cymunedol.  Bydd yr elfen hon yn eich annog i fagu brwdfrydedd eto, a nerth newydd, a gobaith yn eich gweithgarwch.

Ymunwch â ni

Cynhelir yr holl sesiynau ar-lein. Does dim cost ar gyfer yr Uwchgynhadledd, er mwyn sicrhau ei bod mor gynhwysol a hygyrch â phosib. Os gallwch, ac os ydy’r digwyddiad o werth ichi, croeso ichi roi cyfraniad ariannol wrth archebu lle. Bydd unrhyw arian a godir yn mynd yn uniongyrchol i sicrhau fod gwaith Trawsnewid Gyda’n Gilydd yn fwy cynhwysol yn y dyfodol.

Dewiswch ‘Tocyn Uwchgynhadledd’ i gael mynediad at bob sesiwn a gweithdy, diweddariadau rheolaidd a’n gofod ar-lein, Humhub, lle gallwch archwilio cynnwys yr Uwchgynhadledd a magu cysylltiadau â siaradwyr a chyfranogwyr.

Gyda…

Jon Alexander

New Citizenship Project, Awdur – Citizens
Gallwn gyda’n gilydd … fod yn ddinasyddion nid defnyddwyr

Immy Kaur

Cyfarwyddwr – Civic Square
Gallwn gyda’n gilydd… feddiannu gofod a’i droi yn ein gofod ni

Syd Yang

Iachäwr, Llenor, Artist
Gallwn gyda’n gilydd … adeiladu mudiadau mwy cynhwysol

Rob Hopkins

Sylfaenydd y Mudiad Trawsnewid
Storm o Straeon

Yumna Hussen

Actifydd Hinsawdd – Pobl Ifanc / bardd
Gallwn gyda’n gilydd … fod yn ddinasyddion nid defnyddwyr

Monica Cru-Hall

Mam, Therapydd Celfyddydau Creadigol, Addysgwr
Gallwn gyda’n gilydd… greu economi gymdeithasol lewyrchus

Twrnai hawliau brodorol, awdur, actifydd
Gallwn gyda’n gilydd … adeiladu mudiadau mwy cynhwysol

Claude Henrickson

Leeds Community Homes
Gallwn gyda’n gilydd… feddiannu gofod a’i droi yn ein gofod ni

Hannah Peel

Cyfansoddwr, Artist, Cerddor, Darlledwr

Mwy o ffyrdd i gysylltu

Bydd Man Agored wythnos o hyd ar-lein yn dilyn rhaglen yr Uwchgynhadledd, fydd yn cynnig cyfle i barhau i gysylltu, darganfod a derbyn manylion pellach am y themâu sy’n deillio o’r digwyddiad. Gallwch gynnig sesiwn Man Agored fan hyn, a byddwn yn rhannu manylion sesiynau gyda chyfranogwyr yr Uwchgynhadledd

Mae Vive yn ofod cyffrous newydd ar-lein ar gyfer Trawsnewidwyr i gysylltu, rhannu, dysgu a chefnogi ei gilydd. Profiad gwych yw cael ei dreialu ar gyfer Uwchgynhadledd eleni. Ar Vive, byddwch yn gallu rhyngweithio’n fyw gyda chyfranogwyr eraill a siaradwyr, ffurfio ac ymuno â grwpiau a seilir ar themâu cyffredin ac archwilio’n fwy manwl sesiynau a siaradwyr. Adeg cofrestru, cewch wahoddiad i ymaelodi.

Beth sydd ymlaen

Cymerwch gip ar y sesiynau a’r siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau eisoes, yn ôl dyddiad neu thema. Byddwn yn ychwanegu mwy o gynnwys yn rheolaidd rhwng hyn a’r digwyddiad – cofrestrwch heddiw ar gyfer Tocyn i’r Uwchgynhadledd, i sicrhau y byddwch yn derbyn y newyddion diweddaraf.

Cynhelir y sesiynau yn Saesneg. Croeso ichi e-bostio ni os bydd hyn yn rhwystr i’ch cyfranogiad.

Dydd Gwener 13 Mai

Methrin

Gallwn gyda’n gilydd… creu perthynas newydd o ran trawma

4:00 pm – 6:00 pm

Pe seilir actifiaeth mewn dealltwriaeth a mynd i’r afael â’r trawma dwfn a hepgorwyd ar gyfer unigolion, cymunedau a gwledydd, sut olwg fyddai arno? Beth petai hynny wrth ei galon? Bydd  Susan Raffo a Staci K Haines yn rhannu eu dealltwriaeth nhw (heb ei hail) o drawma a sut i weithio gydag ef.

Dydd Sadwrn 14 Mai

Methrin

Gallwn gyda’n gilydd … creu diwylliant dynol iach

11:00 am – 1:00 pm

Bydd y gweithdy diddorol hwn yng ngofal Sophy Banks yn gyfle iddi rannu ei model ar gyfer ‘Diwylliant Dynol Iach’, gyda chyfoeth o syniadau ar y problemau sydd wrth wraidd heriau ein hoes a 5 o ffyrdd medrus a charedig i ddelio gyda nhw.

Methrin

Gallwn gyda’n gilydd … wneud atgyweiriadau gweledol i’n dillad

3:00 pm – 5:00 pm

Cyfle i ddysgu gan feistr atgyweiriwr gweladwy. Dewch â siwmper sydd â thyllau ynddi ac edau a bydd Flora yn eich tywys trwy’r broses gyfan.  Sesiwn myfyriol, hamddenol, a byddwch yn dysgu sgil yr oeddech yn bwriadu ei ddysgu ers oes!

Dydd Gwener 20 Mai

Methrin

Gallwn gyda’n gilydd… fwyta cinio Copy

1:00 pm – 2:00 pm

Cyfle i rannu cinio a myfyrio ar ein cysylltiadau â bwyd.

Methrin

Gallwn gyda’n gilydd … dyfu bwyd unrhyw le

2:00 pm – 3:30 pm

Os ydych yn dyheu am dyfu eich tomatos, courgettes neu fefus eich hun, ond o’r farn nad oedd gennych y lle, mae angen treulio amser yng nghwmni Mark Risdill-Smith, awdur The Vertical Veg Guide to Container Gardening.

Dydd Sadwrn 21 Mai

Methrin

Gallwn gyda’n gilydd … bod yn gyfforddus gyda’r anghyfforddus

11:00 am – 1:00 pm

Gall rhoi cynnig ar bethau newydd olygu cymryd risg a all olygu nad ydych yn teimlo’n gyfforddus. Ymunwch â Monica Cru-Hall o dîm yr uwchgynhadledd a gwesteion mewn gofod lle gallwch gynnal trafodaethau dargyfeiriol ac ymarfer sgyrsiau dewr.

Methrin

Gallwn gyda’n gilydd… fwyta cinio

1:00 pm – 2:00 pm

Cyfle i rannu cinio a myfyrio ar ein cysylltiadau â bwyd.

Skip to content