
MEITHRIN CYMUNEDAU GWYDN AR DRAWS PRYDAIN
Mae pobl ledled y wlad o’r farn nad yw pethau’n gallu parhau fel y maent ar hyn o bryd.
Mae’r argyfwng yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb, rhaniadau a gwahaniaethu ar lefel eang yn dangos nad yw ein systemau gwleidyddol ac economaidd yn gwasanaethu llesiant pobl na’r blaned. Ond mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn dod at ei gilydd i newid hyn er mwyn adeiladu dyfodol gwell. Mae cymunedau’n barod i ymdrin â’r heriau mawr sy’n eu hwynebu, drwy ddechrau ar lefel leol.
Os byddwn yn aros am y llywodraeth, bydd yn rhy hwyr. Os byddwn yn gweithredu fel unigolion, ni fydd yn ddigon. Ond trwy weithredu fel cymunedau, hwyrach y bydd yn ddigon ac mewn pryd. Mae ‘Transition Together’ yn cefnogi pobl i gysylltu ar lefel leol er mwyn meithrin cymunedau mwy cynaliadwy a chydradd lle mae gennym reolaeth dros ein bywydau dyddiol.
Beth yw’r Mudiad Trawsnewid?
Mae Trawsnewid yn fudiad rhyngwladol o gymunedau sy’n dod at ei gilydd er mwyn ail-ddychmygu ac ail-adeiladu ein byd. Ers 2005, mae miloedd o grwpiau wedi datblygu mewn pentrefi, dinasoedd, prifysgolion ac ysgolion mewn dros 50 o wledydd.
Diben Trawsnewid yw pobl sy’n gweithredu ar lefel ymarferol yn yr ardal leol i ymdrin â’r heriau mawr sy’n eu hwynebu. Rhyngom, rydym yn adeiladu dyfodol mwy cydradd, cynaliadwy a democrataidd.

Ymuno â grŵp lleol
Mae gan bobl ym mhob cymuned y grym i wneud eu cymuned leol yn fwy cynaliadwy a chyfiawn ar lefel gymdeithasol. Y cam cyntaf yw dod ynghyd.
Y grwpiau trawsnewid a’r trefnyddion lleol yw calon ein mudiad. Mae dros 300 o grwpiau Trawsnewid yn bodoli ar draws Prydain ac yn gweithredu eisoes i greu dyfodol gwahanol.
Beth am gysylltu â’ch grŵp lleol, neu gychwyn grŵp eich hunan os nad oes grŵp yn eich ardal chi.

Recent Stories

Beth yw’r Cynulliad Trawsnewid – a sut i fod yn rhan ohono
1 Hydref 2024
6 minute read

Chwilio am Blethwyr Rhwydwaith
30 Ebrill 2024
4 minute read

Sero –Canolfan Amgylcheddol Cymunedol newydd Caerfyrddin
14 Chwefror 2024
3 minute read

Sut y gall cyllid sbarduno feithrin gweithredu gan gymuned
8 Tachwedd 2023
9 minute read

Prif gwestiynau’r dyfodol sydd angen eich atebion chi
27 Chwefror 2023
5 minute read

Gofalu am sgwrs hollbwysig
23 Chwefror 2023
7 minute read
I ddarllen mwy o straeon, cliciwch yma.

Tanysgrifio i dderbyn ein cylchlythyr
Cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr misol i gadw mewn cysylltiad a chael y newyddion diweddaraf.